Mary Webb
Mary Webb | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mawrth 1881 Swydd Amwythig |
Bu farw | 8 Hydref 1927 St Leonards |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, bardd |
Nofelydd a bardd romantaidd oedd Mary Gladys Webb (25 Mawrth 1881 – 8 Hydref 1927) o ddechrau'r 20g. Roedd ei gwaith wedi'i osod yn bennaf yng nghefn gwlad Swydd Amwythig ac ymhlith cymeriadau a phobl rodd yn eu hadnabod. Mae ei nofelau wedi'u troi'n ddramâu llwyddiannus, a'r enwocaf o'r rheini yw'r ffilm Gone to Earth yn 1950 gan Michael Powell a Emeric Pressburger. Dyna oedd ysbrydoliaeth y parodi enwog Cold Comfort Farm.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd dan yr enw Mary Gladys Meredith yn 1881 yn Leighton Lodge ym mhentref Leighton,[1] 8 milltir (13 km) i'r de ddwyrain i'r Amwythig. Ysbrydolodd ei thad, George Edward Meredith, a oedd yn athro mewn ysgol breifat,[2] ei ferch gyda'i gariad ei hun tuag at lenyddiaeth a chefn gwlad lleol. Ar ochr ei mam, Sarah Alice, roedd hi'n ddisgynnydd i deulu a oedd yn perthyn i Syr Walter Scott. Archwiliodd Mary y cefn gwlad o amgylch cartref ei phlentyndod, a datblygodd allu i sylwi a disgrifio'n fanwl, a hynny â phobl a llefydd, a welwyd hynny'n hwyrach yn rhan o'i barddoniaeth a rhyddiaeth.
Pan roedd hi'n flwydd oed, symudodd gyda'i rhieni i Much Wenlock, a buont yn byw mewn tŷ o'r enw The Grange y tu allan i'r dref. Dysgwyd Mary gan ei thad, ac yna anfonwyd hi i ysgol fonedd i ferched yn Southport yn 1895. Symudodd y teulu eto i'r Swydd Amwythig, cyn gwneud eu cartref yn Meole Brace, ar ochrau'r Amwythig yn 1902.
Pan roedd hi'n ugain oed, datblygodd symptomau clefyd Graves, salwch thyroid a arweiniodd at lygaid chwyddedig a chwydd y gwddf, ac achosodd hyn salwch gwael drwy gydol ei bywyd ac roedd yn debygol o fod wedi cyfrannu at ei marwolaeth cynnar.
Y gwaith cyntaf a gyhoeddwyd ganddi oedd cerdd pum pennill, a ysgrifennwyd ar ôl clywed y newyddion am ddamwain rheilffordd yr Amwythig ym mus Hydref 1907. Er brawd anfonodd y gerdd at bapur newyddion heb ddweud wrthi, a gyhoeddodd y gerdd yn ddi-enw. Roedd Mary fel arfer yn llosgi ei cherddi cynnar, ac roedd hi wedi dychryn tan iddi glywed bod y papur wedi derbyn llythyron yn gwerthfawrogi ei gwaith gan ei ddarllenwyr.[3]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Henry Bertram Law Webb yn 1912, athro a oedd yn cefnogi ei diddordebau llenyddol i ddechrau. A buont yn byw yn Weston-super-Mare, yn symud yn ôl i Swydd Amwythig.
Dyna lle ysgrifennodd Mary The Golden Arrow, ac ar ôl ei gyhoeddi yn 1917 symudon nhw i Lyth Hill, Bayston Hill ac adeiladu bwthyn ar ddarn o dir yno.
Yn 1921, bu iddynt brynu ail dŷ yn Llundain gan obeithio y bydd hi'n derbyn rhagor o gydnabyddiaeth llenyddol. Fodd bynnag, ni ddigwyddodd hyn. Erbyn 1927 roedd ei salwch yn gwaethu, ac roedd pethau'n mynd o chwith yn ei phriodas. Bu iddi farw yn 46 oed yn Spring Cottage. Claddwyd hi yn yr Amwythig.[4][5][6]
Gwaith
[golygu | golygu cod]- The Golden Arrow (Gorffennaf 1916). Llundain : Constable.
- Gone to Earth (Medi 1917). Llundain : Constable.
- The Spring of Joy; a little book of healing (Gorffennaf 1917). Llundain : J. M. Dent.
- The House in Dormer Forest (July 1920). Llundain : Hutchinson.
- Seven For A Secret; a love story (Hydref 1922). Llundain : Hutchinson.
- Precious Bane (July 1924). Llundain : Jonathan Cape.
- Poems and the Spring of Joy (Essays and Poems) (1928). Llundain : Jonathan Cape.
- Armour Wherein He Trusted: A Novel and Some Stories (1929). Llundain : Jonathan Cape.
- A Mary Webb Anthology, edited by Henry B.L. Webb (1939). Llundain : Jonathan Cape.
- Fifty-One Poems (1946). Llundain : Jonathan Cape. Gyda charfiadau pren gan Joan Hassall
- The Essential Mary Webb, edited by Martin Armstrong (1949). Llundain : Jonathan Cape.
- Mary Webb: Collected Prose and Poems, edited by Gladys Mary Coles (1977). Yr Amwythig : Wildings.
- Selected Poems of Mary Webb, edited by Gladys Mary Coles (1981). Cilgwri : Headland
Cofebau
[golygu | golygu cod]Datgelwyd cofeb o Mary Webb, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Mary Webb, ar dir Llyfrgell yr Amwythig ar 9 Gorffennaf 2016.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dickins, Gordon (1987). An Illustrated Literary Guide to Shropshire. Shropshire Libraries. tt. 74, 99. ISBN 0-903802-37-6.
- ↑ Dickins, Gordon (1987). An Illustrated Literary Guide to Shropshire. t. 74.
- ↑ Francis, Peter (2006). A Matter of Life and Death - The Secrets of Shrewsbury Cemetery. Logaston Press. t. 41. ISBN 1-904396-58-5.
- ↑ Francis, Peter (2006). A Matter of Life and Death, The Secrets of Shrewsbury Cemetery. Logaston Press. t. 55. ISBN 1-904396-58-5.
- ↑ "Mary Webb: brighter and better than Thomas Hardy". The Guardian. 10 March 2009. Cyrchwyd 16 July 2015.
- ↑ "Biography". The Mary Webb Society. Cyrchwyd 16 July 2015.
- ↑ "Literary legend's bust to be unveiled in park". Shropshire Star. 9 July 2016. t. 7.
- Barale, Michele Aina. Daughters and Lovers: The Life and Writing of Mary Webb. 1986
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gone to Earth by Mary Gladys Meredith Webb yn Project Gutenberg
- Literary Heritage - West Midlands - proffil ac e-destunau o'i nofelau