Mark Robert Davey

Oddi ar Wicipedia
Mark Robert Davey
Ganwyd20 Medi 1968 Edit this on Wikidata
Redbridge Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethffotograffydd Edit this on Wikidata

Ffotograffydd yw Mark Robert Davey (ganed 20 Medi 1968 yn Ilford, Llundain Fwyaf, Lloegr). Symudodd Davey i Dalysarn yn Nyffryn Nantlle gyda'i deulu pan oedd yn naw oed, ac wedyn i Gricieth. Dysgodd Gymraeg fel plentyn. Mae'n hoff o natur a dringo mynyddoedd yng Nghymru a'r byd. Ar hyn o bryd mae'n byw yn yr Almaen.

Mae ffotograffau Davey mewn du a gwyn yn bennaf. Tirwedd a phobl yng Nghymru yw ei hoff themâu. Yn aml mae'n defnyddio'r Ddraig Goch Cymru a'r talfyriad MRD yn ei ffotograffau. Mae wedi bod yn gweithio ar lyfrau ac erthyglau yng Nghymru, a hefyd yng ngweddill Ewrop ac America. Mae hefyd yn gweithio gyda ffilm ac mae ganddo ddiddordeb mewn ffotograffiaeth digidol, portreadau stryd, portreadau newydd gan bobol.

Bu'n ffotograffydd ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ers deng mlynedd. Mae wedi creu gwaith ar gyfer nifer o sefydliadau Cymreig a gweithio gyda enwogion a phobl eraill blaenllaw yn niwylliant Cymru megis Mererid Hopwood, Dafydd Iwan a Britta Schulze-Thulin yn yr Almaen, sy'n arbennigo ar Gymru a'r iaith Gymraeg.

Arddangosfeydd (Detholiad)[golygu | golygu cod]

  • "En Route", Castell Hanstein, Yr Almaen, Mai 2006 - Medi 2006
  • Archif Sgrin a Sain yn Riga, Latfia, Ebrill 2007 - Hydref 2007
  • Amgueddfa Mühlhausen, Yr Almaen, Ebrill 2007 - Hydref 2007
  • Eglwys St. Concordia, Ruhla, Yr Almaen, Haf 2007
  • Arddangosfa VW Kassel, Yr Almaen, Ebrill 2007 - Rhagfyr 2007

Bu arddangosfa mawr am Gymru yn Llyfrgell y Brifysgol a Sacsoni Isaf, Göttingen, Yr Almaen, yn 2008, o dan y teitl: "Panorama Cymru" (Paratoiadau gan Dr. Silke Glitsch, Dr. Jens Mittelbach, Annette Strauch, M.A.). Mae gan y Llyfrgell yno gasgliad o'r enw Sondersammelgebiet Keltologie (Casgliad Celtaidd), sy'n cynnwys pob llyfr sydd wedi ei gyhoeddi yng Nghymru heddiw. Mae llyfr gan Brynley F. Roberts, Dylan Thomas ac y Mabinogi i'w gweld yno.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]