Marie Under

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Marie Under
Marie Under circa 1903 by Max Meixner of Reval (Tallinn).jpg
Ganwyd 27 Mawrth 1883 Edit this on Wikidata
Tallinn Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Medi 1980 Edit this on Wikidata (97 oed)
Stockholm Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Rwsia Rwsia
Galwedigaeth Bardd, archifydd, cyfieithydd, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Priod Artur Adson Edit this on Wikidata

Awdures o Estonia a Sweden oedd Marie Under (27 Mawrth 1883 - 25 Medi 1980) sy'n cael ei hystyried yn un o feirdd gorau Estonia. Roedd yn archifydd, cyfieithydd ac yn awdur. Cynigiwyd ei henw ar gyfer Gwobr Lenyddol Nobel wyth o weithiau.

Fe'i ganed yn Tallinn, prifddinas Estonia, (Rwsia hyd at 1920) a bu farw yn Stockholm, Sweden; fe'i claddwyd yno ym mynwent Skogskyrkogården. Bu'n briod i Artur Adson. [1][2][3][4][5]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Under Tallinn i ddau athro o ysgol, sef Priidu (1843-1930) a Leena Under (g. Kerner) (1854-1934). Roedd ganddi chwaer hŷn, Evangeline (1880-1932?) a brawd hŷn Gottried (1881-1882) a dwy chwaer iau, Berta (1885-1974), a Christfried (1887-1934). Mynychodd ysgol ferched Almaeneg breifat.

Darlun o Marie Under gan Ants Laikmaa; 1904

Ar ôl graddio, gweithiodd fel gwerthwr mewn siop lyfrau. Yn ei hamser rhydd, ysgrifennodd farddoniaeth Almaeneg. Ym 1902, priododd â chyfrifydd o Estonia, Carl Hacker. Cawsant ddau blentyn yn Kuchino, un o faestrefi Moscfa. Fodd bynnag, yn 1904, syrthiodd mewn cariad â'r arlunydd o Estonia Ants Laikmaa. Fe wnaeth Laikmaa ei hargyhoeddi i gyfieithu ei barddoniaeth i Estoneg a chyflwyno ei chyfieithiadau i bapurau newydd lleol.

Dychwelydd i Estonia[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1906, dychwelodd Under i Reval ac yn 1913 cyfarfu ag Artur Adson, a ddaeth yn ysgrifennydd iddi. Ef hefyd a gasglodd ynghyd ei barddoniaeth, mewn sawl cyfrol.

Yn 1924, ysgarodd Under a Carl Hacker a phriododd Adson.

Ar ddiwedd y 1910au, bu'n rhan o fudiad llenyddol newydd y Siuru, mudiad neo-ramantaidd a'r gwrthwyneb i'r mudiad cyfredol, ffurfiol "Yr Estonia Ifanc" (Noor-Eesti) a sefydlwyd gan Gustav Suits a Friedebert Tuglas. Ymhlith aelodau eraill y Siuru roedd: Peet Aren, Otto Krusten, Friedebert Tuglas, Artur Adson, August Gailit, Johannes Semper a Henrik Visnapuu. Cyd-gyhoeddodd y grwp dair cyfrol rhwng 1917 a 1919.[6][7]

Yn 1922 cydsefydlodd Undeb Sgwennwyr Estonia (Eesti Kirjanike Liit neu EKL).[8]

Bedd Under; Skogskyrkogården, Stockholm. Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y bydd ei chorff yn cael ei symud i Estonia.[8]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12176379m; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 26 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12176379m; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 26 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12176379m; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 26 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12176379m; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 11 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578
  6. Jean Albert Bédé, William Benbow Edgerton, Columbia Dictionary of Modern European Literature, Columbia University Press, 1980, ISBN 0-231-03717-1, p237
  7. Rubulis, Aleksis. Baltic Literature. University of Notre Dame Press, 1970.
  8. 8.0 8.1 Tambur, S. (4 January 2015). "Estonia's most influential poet to be reburied". Eesti Rahvusringhääling. Cyrchwyd 2 Mai 2015.