Marian McPartland

Oddi ar Wicipedia
Marian McPartland
GanwydMargaret Marian Turner Edit this on Wikidata
20 Mawrth 1918 Edit this on Wikidata
Slough Edit this on Wikidata
Bu farw20 Awst 2013 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Port Washington Edit this on Wikidata
Label recordioCapitol Records, Concord Records, Dot Records, Federal Records, Concord Jazz Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpianydd, cyflwynydd radio, cyfansoddwr, cerddor jazz, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddulljazz, cool jazz, bebop, mainstream jazz, cerddoriaeth swing, post-bop Edit this on Wikidata
PriodJimmy McPartland Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobrau Peabody, OBE, Gwobr Ymddiriedolwyr Grammy, National Radio Hall of Fame, NEA Jazz Masters Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.marianmcpartland.com/ Edit this on Wikidata

Pianydd jazz oedd Margaret Marian McPartland, (ganwyd Margaret Marian Turner;[1]; 20 Mawrth 1918 – 20 Awst 2013). Fe'i ganwyd yn Slough yn Lloegr, ond treuliodd mwyafrif ei bywyd yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd McPartland hyfforddiant clasurol ond syrthiodd mewn cariad â jazz yn gynnar. Bu'n chwarae mewn bandiau ar gyfer milwyr Prydeinig yn ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd; tra'n chwarae yno cwrddodd â Jimmy McPartland, cornetydd o Chicago. Priododd y ddau yn 1945 a symudodd Marian i'r Unol Daleithiau, lle treuliodd gweddill ei gyrfa. Yn ogystal â chwarae ym mand Jimmy, bu Marian yn arwain ei grwpiau ei hun o'r cychwyn. Ar y dechrau roedd McPartland yn chwarae swing, yr arddull oedd yn fasiynol yn ystod y cyfnod; fodd bynnag yn hwyrach yn ei gyrfa hir amsugnodd Marian bebop ac ôl-bop ac fe'i dylanwadwyd hefyd yn sylweddol gan ei chefndir clasurol.

Byddai Marian a Jimmy yn ysgaru yn 1967 ond arhosodd y ddau'n ffrindiau, gan ail-briodi yn 1991 ychydig wythnosau cyn marwolaeth Jimmy[2]

O 1978 i 2011, bu Marian yn gyflwynydd y rhaglen radio Americanaidd Marian McPartland's Piano Jazz.[3] Yn ystod y rhaglen byddai Marian yn cyfweld â pianydd jazz enwog, gan drafod ei yrfa a'i gerddoriaeth. Byddai Marian a'i hymwelydd bob amser yn cael y cyfle i chwarae deuawd fel rhan o'r rhaglen. Drwy'r rhaglen, chwaraeodd Marian gyda bob un o bianyddion pwysig Jazz yn ail hanner yr 20g a dechrau'r 21g, gan gynnwys Mary Lou Williams, Chick Corea, Herbie Hancock, Bill Evans, Keith Jarrett a Brad Mehldau ymysg llawer iawn o gerddorion eraill. Enillodd Marian McPartland's Piano Jazz nifer fawr o wobrwyon radio.

Bu farw McPartland yn 2013 yn 95 oed.

Recordiau (detholiad)[golygu | golygu cod]

  • Jazz at Storyville (Savoy, 1951)
  • Lullaby of Birdland (Savoy, 1952)
  • Marian McPartland Trio (Savoy, 1952)
  • The Magnificent Marian McPartland at the Piano (Savoy, 1952)
  • Moods (Savoy, 1953)
  • Jazz at the Hickory House (Savoy, 1953)
  • Marian McPartland After Dark (Capitol, 1956)
  • The Marian McPartland Trio (Capitol, 1956)
  • Marian McPartland Trio with Strings: With You in Mind (Capitol, 1957)
  • Marian McPartland Trio: At the London House (Argo, 1958)
  • Interplay (Halcyon, 1969)
  • Live at the Monticello: Jimmy and Marian McPartland (Halcyon, 1972)
  • Swingin': Marian and Jimmy McPartland and Guests (Halcyon, 1973)
  • Marian McPartland: Plays the Music of Alec Wilder (Halcyon, 1974)
  • Marian McPartland: Solo Concert at Haverford (Halcyon, 1974)
  • Let It Happen (RCA, 1974)
  • Now's the Time (Halcyon, 1977)
  • From This Moment On (Concord, 1978)
  • Marian McPartland: Live at the Carlyle (Halcyon, 1979)
  • Ambiance (Jazz Alliance, 1970)
  • At the Festival (Concord, 1979)
  • Portrait of Marian McPartland (Concord, 1980)
  • Marian McPartland and George Shearing: Alone Together (Concord, 1982)
  • Personal Choice (Concord, 1982)
  • Willow Creek and Other Ballads (Concord, 1985)
  • Windows (Concord, 2004)
  • Marian McPartland Trio with Joe Morello and Rufus Reid – Live in New York (Concord, 2005)
  • Twilight World (2008)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hasson, Claire, "Marian McPartland: Jazz Pianist: An Overview of a Career". PhD Thesis.. Adalwyd 12 Awst 2008.
  2. Gourse, Leslie. "Madame Jazz: Contemporary Women Instrumentalists" New York: Oxford University Press. Ch 23: Marian McPartland: "...Something You Really Need in Life, Someone to Encourage You" 1995. t197
  3. McKinley Jr., James C. (10 Tachwedd 2011). "Marian McPartland Stepping Away From Keyboard on Her 'Piano Jazz' Radio Show". New York Times. Cyrchwyd 4 Mehefin 2014.