Margaret Mahy

Oddi ar Wicipedia
Margaret Mahy
Ganwyd21 Mawrth 1936 Edit this on Wikidata
Whakatāne Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 2012 Edit this on Wikidata
Christchurch Edit this on Wikidata
Man preswylGovernors Bay Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Seland Newydd Seland Newydd
Alma mater
  • Prifysgol Canterbury, Seland Newydd
  • Prifysgol Auckland
  • Whakatane High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, llyfrgellydd, awdur plant, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Haunting, The Changeover Edit this on Wikidata
MamMay Mahy Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Hans Christian Andersen, Medal Carnegie, Medal Carnegie, Gwobr Phoenix, Gwobr Phoenix, Urdd Seland Newydd, Prime Minister's Award for Literary Achievement (Fiction), New Zealand Post Children's Book Awards, Esther Glen Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://christchurchcitylibraries.com/MargaretMahy Edit this on Wikidata

Awdures llyfrau plant a phobl ifanc o Seland Newydd oedd Margaret Mahy (21 Mawrth 1936 - 23 Gorffennaf 2012). Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Haunting a The Changeover. Mae naws goruwchnaturiol a hyd yn oed gwyddonias i'w llyfrau, ond mae hefyd yn canolbwyntio ar gymeriadau a'u perthynas at ei gilydd wrth iddynt fynd drwy eu harddegau a chyfnod glasoed.

Fe'i ganed yn Whakatane ar 21 Mawrth 1936; bu farw yn Christchurch. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Canterbury, Seland Newydd a Phrifysgol Auckland.[1][2][3][4][5]

Ysgrifennodd dros 100 o lyfrau gyda lluniau, 40 o nofelau ac 20 casgliad o straeon byrion. Pan fu farw, roedd yn un o dri-deg o awduron yn unig a oedd wedi ennill Medal Hans Christian Andersen am ei “chyfraniad parhaol i lenyddiaeth plant”.[6] [7][8][9]

Enillodd Mahy Fedal Blynyddol Carnegie gan Gymdeithas y Llyfrgelloedd, am y llyfr plant gorau'r flwyddyn gan berson o Brydain, am ei chyfrol The Haunting (1982) ac am The Changeover (1984). Yn ôl rhai, mae rhai o'i chyfrolau'n cael eu hystyried yn 'glasuron' yn Lloegr; mae'r rhain yn cynnwys A Lion in the Meadow, The Seven Chinese Brothers a The Man Whose Mother was a Pirate.[10]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganwyd Mahy yn 1936, yr hynaf o bump o blant.

Fe'i magwyd yn ardal ei genedigaeth, sef Whakatane. Roedd ei thad, Frances George Mahy, yn adeiladwr pontydd ac yn aml yn dweud wrth ei blant straeon antur a ddylanwadodd yn ddiweddarach ar waith Mahy. Roedd ei mam Helen Penlington yn athrawes. Roedd Margaret yn 'ddysgwr araf', ac roedd yn casau mathemateg yn yr ysgol. Ei stori gyntaf a gyhoeddodd oedd "Harry is Bad", a ysgrifennwyd pan oedd yn saith oed (a gyhoeddwyd yn Bay of Plenty Beacon).

Yn yr ysgol, bu'n hynod o lwyddiannus gyda'i nofio.[11]

Cwblhaodd Mahy ei B.A. yng Ngholeg Prifysgol Auckland (1952–1954) a Choleg Prifysgol Caergaint, gan raddio yn 1955. Yn 1956 hyfforddodd yn Ysgol Lyfrgell Seland Newydd, Wellington fel llyfrgellydd.[12][13]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Hans Christian Andersen (2006), Medal Carnegie (1982), Medal Carnegie (1984), Gwobr Phoenix (2005), Gwobr Phoenix (2007), Urdd Seland Newydd, Prime Minister's Award for Literary Achievement (Fiction) (2005), New Zealand Post Children's Book Awards, Esther Glen Award[14] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119139457. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119139457. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.telegraph.co.uk/news/obituaries/culture-obituaries/books-obituaries/9424565/Margaret-Mahy.html.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. "Margaret Mahy". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margaret Mahy". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. http://web.archive.org/web/20160401154051/http://jeugdliteratuur.org/auteurs/margaret-mahy.
  4. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. "Margaret Mahy". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Margaret Mahy". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Man geni: http://www.bbc.co.uk/news/entertainment-arts-18965685. http://www.stuff.co.nz/sunday-star-times/features/profiles/218957/Margaret-Mahy.
  6. "Hans Christian Andersen Awards" (top page). International Board on Books for Young People (IBBY). Retrieved 20 Awst 2012.
  7. Galwedigaeth: http://muse.jhu.edu/journals/childrens_literature_association_quarterly/v039/39.1.marquis.html. http://muse.jhu.edu/journals/chq/summary/v020/20.1.scutter.html. http://www.theage.com.au/national/obituaries/awardwinning-author-connected-with-children-and-adults-20120726-22vi8.html. http://www.cbc.ca/news/arts/beloved-children-s-author-margaret-mahy-dies-1.1217355. http://www.stuff.co.nz/nelson-mail/news/7338140/Mahy-a-trailblazer-for-childrens-books.
  8. Anrhydeddau: https://creativenz.govt.nz/Funds-and-opportunities/Results/Award-winners/Prime-Ministers-Awards-for-literary-achievement.
  9. Living Archive: Celebrating the Carnegie and Greenaway Winners: The Changeover, Carnegie Winner 1984, CILIP, archifwyd o y gwreiddiol ar 10 Medi 2015, https://web.archive.org/web/20150910221740/http://www.carnegiegreenaway.org.uk/livingarchive/title.php?id=74
  10. Questions kids ask Margaret Mahy, Christchurch City Libraries, archifwyd o y gwreiddiol ar 23 Ionawr 2015, https://web.archive.org/web/20150123122216/http://christchurchcitylibraries.com/MargaretMahy/QuestionsAnswers/
  11. Samdog Design Ltd. "New Zealand Book Council Biography". Bookcouncil.org.nz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-11. Cyrchwyd 2012-09-04.
  12. "NZ author Margaret Mahy dies: report". The Australian. News Limited. AAP. 2 Awst 2012. Cyrchwyd 12 Medi 2015.
  13. "Margaret Mahy, a biography". The Margaret Mahy Pages. Christchurch City Libraries (library.christchurch.org.nz). 2012. Cyrchwyd 2012-09-04.
  14. https://creativenz.govt.nz/Funds-and-opportunities/Results/Award-winners/Prime-Ministers-Awards-for-literary-achievement.