Margaret Haig Mackworth, 2il Is-iarlles Rhondda

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Margaret Haig Thomas)
Jump to navigation Jump to search
Margaret Haig Mackworth, 2il Is-iarlles Rhondda
Lady Margaret Mackworth.jpg
Ganwyd 12 Mehefin 1883 Edit this on Wikidata
Bayswater, Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Gorffennaf 1958 Edit this on Wikidata (75 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Ysgrifennwr, Swffragét, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Tad David Alfred Thomas Edit this on Wikidata
Mam Sybil Thomas Edit this on Wikidata

Roedd Margaret Haig Mackworth, 2il is-iarlles Rhondda (12 Mehefin 188320 Gorffennaf 1958) yn bendefig, arweinydd yn y byd busnes ac yn actifydd milwriaethus yn achos y Swffragetiaid yng Nghymru ac yn ffigwr arwyddocaol yn hanes ennill y bleidlais i fenywod yn y Deyrnas Unedig.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Margaret Haig Thomas yng Bayswater, Llundain yn ferch i David Alfred Thomas, a daeth yn AS Merthyr Tudfil, AS Caerdydd ac Is-iarll Rhondda yn ddiweddarach, a Sybil Haig, swffragét amlwg arall. Addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd Notting Hill, Ysgol St. Leonards, St. Andrews a Choleg Somerville, Rhydychen.[2]

Priodas ac ysgariad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1908 priododd Margaret Syr Humphrey Mackworth[3], 7fed barwnig y Gnoll, Castell-nedd; roedd ei rhieni yn credu ei fod yn uniad delfrydol er gwaetha'r ffaith nad oedd gan y ddau dim yn gyffredin a bod Syr Humphrey yn bychanu addysg a gweithgareddau deallusol ei wraig ac yn gwrthwynebu ei ffeministiaeth a'i ymrwymiad i'r swffragetiaid. Yn gynnar yn eu priodas gwrthododd caniatáu i Sybil Pankhurst ymweld â'u cartref i annerch cyfarfod swffragét.

Ni fu blant o'r briodas a daeth i ben trwy ysgariad ym 1923[4]. Llai na 3 mis ar ôl yr ysgariad priododd Syr Humphrey a Dorothy Llywellin, o Gaerllion, merch 20in mlynedd yn iau na fo [5].

Lesbiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r mwyafrif o gofiannau cyfoes o'r Arglwyddes Rhondda yn gytyn ei bod hi'n lesbiad, gan fyddai dynes o'i dosbarth yn cydnabod hynny'n gyhoeddus yn ei chyfnod yn sgandal aruthrol does dim modd bod yn 100% sicr [6], ond mae sicrwydd ei bod wedi cydfyw gyda merched eraill wedi ei hysgariad hyd ei marwolaeth, ac mae gohebiaeth rhyngddi hi a'i chydbreswylwyr yn awgrymu perthnasau dwys [7].

Rhwng 1922 a 1931 bu'r Arglwyddes yn rhannu tŷ gyda Helen Archdale, golygydd y papur ffeministaidd Time and Tide; bu wedyn mewn perthynas gyda'r awdures ifanc, Winifred Holtby, (bu hi farw ym 1935); yna bu mewn perthynas gydag awdures arall, Theodora Bosanquet, perthynas a barhaodd hyd farwolaeth yr Arglwyddes ym 1958[8].

Gweithgarwch gwleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1908 cafodd cyfnither i Mrs Sybil Thomas, Florence Haig, ei charcharu am ei rhan yn yr ymgyrch i ennill y bleidlais i fenywod, fel arwydd o gefnogaeth i'w car ymunodd Sybil a Margaret a chwiorydd Sybil / modrybedd Margaret, Janetta a Lotty,[9] ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (WSPU) gan ddod yn ymgyrchwyr brwd dros yr achos.

Sefydlodd y fam a'r ferch cangen o'r WSPU yng Nghasnewydd a buont yn efengylu i sefydlu canghennau eraill trwy ddeheubarth Cymru. Yng nghwmni Annie Kenney, un o sêr y WSPU, bu Mackworth yn annerch y Clwb Rhyddfrydol ym Merthyr Tudful , etholaeth ei thad, lle taflwyd penwaig a thomatos atynt. Yn ystod etholiad cyffredinol 1910, yn dilyn y polisi milwriaethus o aflonyddu ar weinidogion y cabinet, torrodd trwy gordyn yr heddlu a neidio ar fwrdd rhedeg car y Prif Weinidog H H Asquith gan weiddi Votes for Women. Ym 1913 gosododd bom cemegol mewn blwch post ar Ffordd Rhisga, Casnewydd, cafodd ei harestio ei dyfarnu'n euog a'i dirwyo; wedi gwrthod talu'r ddirwy danfonwyd hi i'r carchar ym Mrynbuga[10]. Wedi ei charcharu aeth Mrs Mackworth ar streic newyn. Gan fod y llywodraeth wedi ei feirniadu'n hallt am geisio gorfodi bwyd lawr llwnc swffragetiaid ar streic newyn pasiwyd The Prisoners (Temporary Discharge for Ill-Health) Act 1913 neu Ddeddf y Gath a'r Llygoden, lle rhyddhawyd carcharorion gwael eu hiechyd (megis trwy newyn) o'r carchar a'u danfon yn ôl i'r carchar wedi iddynt adfer eu hiechyd[11]. Wedi wythnos o streic newyn rhyddhawyd Mackworth o'r carchar[12] ac, yn erbyn ei hewyllys, talodd ei gŵr ei ddirwy, gan hynny ni fu'n rhaid iddi ddychwelyd i'r carchar.

Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf derbyniodd Margaret benderfyniad arweinyddiaeth y WSPU i roi'r gorau i'w hymgyrch milwriaethus ar gyfer y bleidlais ag i gyfeirio eu hymdrechion tuag at ennill y Rhyfel.

Dynes busnes[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn 1908 roedd D A Thomas yn teimlo bod angen arno raglaw y gallai ymddiried ynddo'n llwyr i gynorthwyo gyda rhedeg ei ymerodraeth gyfalafol, awgrymodd Mrs Thomas y byddai Margaret yn ddelfrydol ar gyfer y fath rôl gan fod D A wedi hen arfer trafod ei fusnesau efo hi, ei bod hi'n hen gyfarwydd â strwythur y busnes a'i bod wedi derbyn ei chyngor, er budd, ar sawl achlysur[10]. Derbyniodd D A Cyngor ei wraig a phenodwyd Margaret ar gyflog o £1,000 y flwyddyn. Swm anferth i gyflogai i ddyn yn y cyfnod (tua £350,000 yn ôl gwerth llafur 2014[13]) ac yn gwbl chwyldroadol fel cyflog i ferch, yn arbennig o anhygoel pan oedd disgwyl i fenywod parchus y cyfnod, megis athrawon a nyrsiaid, ymddiswyddo wrth briodi.

Erbyn canol 1914 roedd D A wedi rhoi'r cyfrifoldeb llwyr o redeg ei fuddiannau papur newydd i Margaret. Wrth i'r Rhyfel Byd Cyntaf mynd rhagddi a phwysau gwleidyddol yn effeithio ar y busnesau aeth cyfrifoldebau Margaret yn y busnes yn fwy, erbyn diwedd y rhyfel roedd yn gyfarwyddwr ar fwy nag ugain o gwmnïau.

Rhestr cwmniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan fu farw D.A. Thomas ym 1918 etifeddodd Margaret reolaeth o'i holl gwmnïau. Gan gynnwys y cwmnïau roedd hi wedi eu sefydlu, bu'n berchennog neu'n rheolwr ar:

  • Anglo-Spanish Coaling Co. Ltd.
  • Britannic Merthyr Coal Co. Ltd
  • British Fire Assurance Co. Ltd.
  • Cambrian Collieries Ltd
  • "Cambrian News" (Aberystwyth) Ltd
  • Celtic Collieries Ltd
  • Consolidated Cambrian Ltd;
  • Compania General de Carbones Barcelona, S.A.
  • Cynon Colliery Co. Ltd
  • D. Davis & Sons Ltd; Genatosan Ltd.
  • Glamorgan Coal Co. Ltd
  • Graigola Merthyr Co. Ltd
  • Gwaun-cae-Gurwen Colliery Co. Ltd.
  • Globe Shipping Co. Ltd
  • Imperial Navigation Coal Co. Ltd
  • International Coal Co. Ltd; Lysberg Ltd.
  • John Lysaght Ltd
  • North's Navigation Collieries (1889) Ltd
  • Naval Colliery Co. (1897) Ltd;
  • Plisson & Lysberg (Insurance) Ltd
  • Pure Coal Briquettes Ltd
  • Rhondda Engineering and Mining Company, Ltd
  • South Wales Printing and Publishing Co. Ltd
  • South Wales Journal of Commerce Ltd.
  • Sheppard & Sons Ltd
  • Salutaris Water Co, Ltd
  • Societe Maritime et Commerciale Franco-Anglaise
  • Thomas & Davey Ltd., Cardiff
  • Time and Tide Publishing Co. Ltd
  • Welsh Navigation Steam Coal Co. Ltd
  • Western Mail Ltd.[14]

Suddo'r Lisutania[golygu | golygu cod y dudalen]

Achos y Pendefig[golygu | golygu cod y dudalen]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Newport Past Vicountess Rhondda (trawsysgrif o Who's Who in Newport 1920) [1] Adalwyd 2 Ebrill 2016
  2. Y Bywgraffiadur THOMAS , MARGARET HAIG , IS-IARLLES RHONDDA ( 1883 - 1958 ) [2] adalwyd 2 Ebrill 2016
  3. "MARRIAGE OF CAPT MACKWORTH - The Glamorgan Gazette". Central Glamorgan Printing and Publishing Company Limited. 1908-07-17. Cyrchwyd 2016-04-02.
  4. Portsmouth Evening News 02 July 1923 Tud 9 Lady Rhondda's Decree
  5. Sir Humphrey MacKworth. Daily Mail (London, England) 17 Sept. 1923: 9. Daily Mail Historical Archive, 1896-2004. [3] adalwyd 2 Ebrill 1916
  6. Angela V. John, Turning the Tide: The Life of Lady Rhondda Parthian Books, 2014
  7. Lillian Faderman, Surpassing the Love of Men: Romantic Friendship and Love Between Women from the Renaissance to the Present (New York: Morrow, 1981)
  8. Out History Christianne Anastasia Gadd: Margaret Haig Thomas, Lusitania’s Queer Cargo adalwyd 2 Ebrill 2016
  9. Deirdre Beddoe, ‘Thomas , Sybil Margaret, Viscountess Rhondda (1857–1941)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 adalwyd 2 Ebrill 2016
  10. 10.0 10.1 ‘Deirdre Beddoe, ‘Thomas , Margaret Haig, suo jure Viscountess Rhondda (1883–1958)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, May 2015 adalwyd 2 Ebrill 2016
  11. Parliament UK The Cat and Mouse Act 1913 [4] adalwyd 2 Ebrill 2016
  12. "MRSMACKWORTHRELEASED - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1913-07-16. Cyrchwyd 2016-04-02.
  13. Measuring Worth [5] adalwyd 5 Ebrill 2016
  14. Cynon Culture Vicountess Rhondda [6] adalwyd 4 Ebrill 2015