Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched
Sefydlwyd 1903
Sefydlydd Emmeline Pankhurst
Daeth i ben 1917


Mudiad gwleidyddol i fenywod yn unig oedd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched neu Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU) sy'n gyfieithiad o the Women's Social and Political Union, sefydliad milwriaethus blaenllaw a ymgyrchai dros bleidlais i fenywod yng ngwledydd Prydain rhwng 1903 a 1917. O 1906 ymlaen, adnabyddid aelodau'r WSPU fel "swffragetiaid". Rheolwyd yr aelodaeth a pholisïau'r undeb yn dynn gan Emmeline Pankhurst a'i merched Christabel a Sylvia, er i Sylvia gael ei diarddel o'r undeb yn ddiweddarach. Ymgyrchai'r muduad dros ddiwygio cymdeithasol. Mabwysiadwyd y slogan "Deeds, not words". Erbyn 1913, penodwyd Nora Dacre Fox (neu Norah Elam) fel Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.[1]

Daeth aelodaeth WSPU yn adnabyddus am anufudd-dod sifil a gweithredu uniongyrchol. Roedd yr aelodau'n aml yn defnyddio tactegau fel heclo (gweiddi ar draws gwleidyddion), cynnal gwrthdystiadau a gorymdeithiau, torri'r gyfraith a gorfodi'r heddlu i'w harestio, torri ffenestri mewn adeiladau amlwg, a rhoi blychau post ar dân. Ar ôl eu carcharu — aeth llawer o'r menywod hyn ar streic newyn, gan ddioddef cael eu bwydo drwy rym.

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod fel mudiad menywod annibynnol ar 10 Hydref 1903 yn 62 Nelson Street, Manceinion, cartref y teulu Pankhurst.[2] Roedd Emmeline Pankhurst, ynghyd â dwy o'i merched, Christabel a Sylvia, a'i gŵr, Richard, cyn ei farwolaeth ym 1898, wedi bod yn weithgar yn y Blaid Lafur Annibynnol (ILP), a sefydlwyd yn 1893 gan Keir Hardie, ffrind i'r teulu.[3] Yn ddiweddarach sefydlodd Hardie y Blaid Lafur.

dros amser, teimlai Emmeline Pankhurst nad oedd y Blaid Lafur Annibynnol yn ateb gofynion menywod. Ar 9 Hydref 1903, gwahoddodd nifer o aelodau lleol yr ILP i'w chartref, gan ddweud wrthynt fod yn rhaid i fenywod sefyll ar ei traed eu hunain, ac anogodd fudiad annibynnol i ymgyrchu dros eu hawliau. Nid oedd y mudiad newydd ynghlwm wrth unrhyw blaid, a dim ond merched gai ymuno â hi. Yn Ionawr 1906 datganodd y papur newydd Daily Mail ei fod o blaid etholfraint (suffrage) i ferched a disgrifiodd y merched fel "etholfreinnwyr" sef ""swffragetwyr".[3][4][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. McPherson, Angela; McPherson, Susan (2011). Mosley's Old Suffragette – A Biography of Nora Elam. ISBN 978-1-4466-9967-6. 
  2. Purvis, June (2002). Emmeline Pankhurst: A Biography. London: Routledge. p. 67. ISBN 978-0-415-23978-3. 
  3. 3.0 3.1 3.2 Purvis, June (1996). "A 'pair of … infernal queens'? A reassessment of the dominant representations of Emmeline and Christabel Pankhurst, first-wave feminists in Edwardian Britain". Women's History Review 5 (2): 260. doi:10.1080/09612029600200112.
  4. Pankhurst, Christabel (1959). Unshackled: The Story of How We Won the Vote. London: Hutchison, tud. 43.