Maravillas Lamberto
Maravillas Lamberto | |
---|---|
Ganwyd | Maravillas Lamberto Yoldi 28 Mehefin 1922 Larraga |
Bu farw | 15 Awst 1936 Larraga |
Dinasyddiaeth | Gwlad y Basg |
Galwedigaeth | war crime victim |
Tad | Vicente Lamberto |
Lladdwyd Maravillas Lamberto Ioldi (Larraga, Nafarroa, 1922 Mehefin 28 - 1936 Awst 15) yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Roedd ei thad, Vicente Lamberto yn filwriaethwr sosialaidd yn y pentref. Pan ddaeth y Guardia Civil i'r tŷ i chwilio amdano, roedd Maravillas eisiau mynd gyda'i thad. Aethpwyd â hi i Neuadd y Dref, lle cafodd ei threisio tro ar ôl tro, a lladdwyd hi a'i thad. Gadawyd ei chorff yn noeth i'r cŵn gnoi, a llosgwyd y gweddillion.
Teyrngedau
[golygu | golygu cod]Canodd yr unawdydd o Nafarroa, Fermin Balentzia, gân er anrhydedd iddi, a genir yn aml mewn seremonïau er anrhydedd i'r rhai a saethwyd yn ystod y Rhyfel Cartref. Yn 2009, perfformiodd y grŵp Berri Txarrak y gân Maravillas ar eu halbwm Payola. Yn ardal Lezkairu ym Mhamplona, penderfynwyd enwi safle Maravillas Lamberto Yoldi er anrhydedd iddi yn 2015.
Ar 2 Rhagfyr 2017, yn ystod seremoni agoriadol swyddogol y ganolfan ieuenctid yn Hen Dref Pamplona, cyhoeddwyd mai Maravillas fyddai enw newydd y safle, er anrhydedd i Maravillas Lamberto. Roedd Josefina, chwaer Marabillas, yn bresennol. Diolchodd Josefina am yr enwi, gan nodi bod cof hanesyddol yn offeryn angenrheidiol ar gyfer peidio ag anghofio troseddau’r gorffennol. [1]
Ar Chwefror 10, 2018, ailenwyd sgwâr yn ardal Lezkairu ym Mhamplona yn Maravillas Lamberto Plaza.[2] Pan geisiodd Llywodraeth Nafarroa i gau'r ganolfan ieuenctid, talodd yr ymgyrchwyd oedd yn meddiannu'r safle deyrnged i Maravillas, ac ymwelodd ei chwaer Josefina unwaith eto.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Inaugurado el Gaztetxe de Alde Zaharra que pasará a llamarse Maravillas" (yn es), Ahotsa Info, 2017-12-02, https://www.youtube.com/watch?v=gMdJT2CRSw4
- ↑ "Iruñean dago Maravillas Lamberto" (yn eu), Berria, 2018-02-10, https://www.berria.eus/albisteak/148837/irunean_dago_maravillas_lamberto.htm, adalwyd 2021-12-04
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Sbaeneg) «Maravillas Lamberto ya tiene plaza en Iruñea», Naiz, 2018-02-10.
- (Sbaeneg) «Tres historias entre las 3.240 que reviven en el parque de Sartaguda»[dolen farw] , Gara, 2008-06-01.