Malwida von Meysenbug
Malwida von Meysenbug | |
---|---|
Ganwyd | 28 Hydref 1816 Kassel |
Bu farw | 23 Ebrill 1903, 26 Ebrill 1903 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor, hunangofiannydd |
Adnabyddus am | Memoirs of an Idealist |
Awdures o'r Almaen oedd Malwida von Meysenbug (28 Hydref 1816 – 23 Ebrill 1903) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur a hunangofiannydd. Hi oedd y fenyw gyntaf erioed i gael ei henwebu ar gyfer y Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Malwida Von Meysenbug yn Kassel, Hesse. Roedd ei thad, Carl Rivalier yn ddisgynnydd o deulu o Hiwgenotiaid o Ffrainc, a derbyniodd y teitl Barwn Meysenbug gan William I o Hesse-Kassel. Y nawfed o deg o blant, torrodd pob cysylltiad gyda'i theulu oherwydd ei daliadau gwleidyddol. Cafodd dau o'i brodyr yrfaoedd disglair - y naill fel gweinidog gwladol yn Awstria, a'r llall fel Gweinidog y Karlsruhe. Gwrthododd Von Meysenbug apelio i'w theulu fodd bynnag, gan ddewis byw yn y lle cyntaf ymhlith cymuned rydd yn Hamburg, ac yna trwy ymfudo i Loegr ym 1852 lle bu’n cynnal ei hun trwy ddysgu a chyfieithu gweithiau.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd ei gwaith yn gynnwys Memories of an Idealist. Cyhoeddodd y gyfrol gyntaf yn ddienw yn 1869. Hefyd, roeddd yn ffrind i Friedrich Nietzsche a Richard Wagner, a chyfarfuâ'r awdur Ffrengig Romain Rolland yn Rhufain yn 1890. Yn 1901 von Meysenbug oedd y fenyw gyntaf erioed i gael ei henwebu ar gyfer y Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth ar ôl cael ei henwebu gan yr hanesydd Ffrengig Gabriel Monod.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Asaid, Alan. "Så ratade Akademien kvinnorna".
- ↑ Coustillas, Pierre ed. London and the Life of Literature in Late Victorian England: the Diary of George Gissing, Novelist. Brighton: Harvester Press, 1978, p.210.