Mala vita

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mala Vita, Giordano opera. Act 1.jpg
Golygfa lwyfan o Act 1 o berfformiad Ebrill 1892 yn Teatro San Carlo
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol opera Edit this on Wikidata
Iaith Eidaleg Edit this on Wikidata
Cymeriadau Marco, Annetiello, Vito, Nunzia, Cristina, Amalia Edit this on Wikidata
Libretydd Nicola Daspuro Edit this on Wikidata
Cyfansoddwr Umberto Giordano Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af 21 Chwefror 1892 Edit this on Wikidata

Mae Mala vita (Bywyd truenus) yn opera mewn tair act a gyfansoddwyd gan Umberto Giordano [1] i libreto gan Nicola Daspuro wedi'i addasu o ddrama verismo Salvatore Di Giacomo a Goffredo Cognetti o'r un enw. Perfformiwyd yr opera gyntaf ar 21 Chwefror 1892 yn y Teatro Argentina, Rhufain. Fe’i perfformiwyd wedi hynny yn Napoli, Fienna, Berlin a Milan, a dinasoedd eraill yr Eidal dros y ddwy flynedd nesaf. Ym 1897 dangoswyd fersiwn wedi'i hail-weithio a'i diwygio'n sylweddol o dan y teitl Il voto (Yr addewid) am y tro cyntaf ym Milan. Ymhen ychydig flynyddoedd roedd y ddau fersiwn wedi diflannu o'r repertoire. Ymhlith ei adfywiadau modern prin roedd perfformiad yn 2002 yn y Teatro Umberto Giordano yn Foggia (a recordiwyd yn fyw a'i ryddhau ar label Bongiovanni) ac ymddangosiad fel un o operâu Gwyl Loch Garman yn 2018. [2]

Wedi'i gosod mewn cymdogaeth slym yn Napoli yn gynnar yn y 19eg ganrif, mae stori'r opera (a'r ddrama y mae'n seiliedig arni) yn troi o amgylch triongl cariad rhwng Vito, llifiwr dillad sy'n dioddef â'r diciâu; Cristina, putain y mae Vito wedi addo priodi yn gyfnewid am i Dduw ei wella o'i afiechyd; ac Amalia, meistres Vito ond a briododd ag Annetiello, diotwr oedd yn fynychwr rheolaidd o'r puteindy lle'r oedd Cristina yn gweithio. Mae'r hanes yn datblygu yng nghanol paratoadau'r gymdogaeth ar gyfer gŵyl Pedigrotta. [3]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Salvatore Di Giacomo, y seiliwyd y libreto ar ei ddrama a'i stori fer

Mala vita oedd opera hyd lawn gyntaf Giordano ond mae'n ddyledus i'w Marina, opera un act a gyfansoddodd tra oedd yn fyfyriwr yn Ysgol Gerdd San Pietro a Majella yn Napoli. Ym mis Gorffennaf 1888 roedd y cyhoeddwr cerddoriaeth o Filano, Edoardo Sonzogno, wedi cyhoeddi cystadleuaeth a oedd yn agored i bob cyfansoddwr ifanc o’r Eidal nad oeddent eto wedi cael opera wedi’i pherfformio ar y llwyfan. Fe'u gwahoddwyd i gyflwyno opera un act a fyddai'n cael ei beirniadu gan reithgor o bum beirniad a chyfansoddwr amlwg o'r Eidal. Byddai'r tri gorau yn cael eu llwyfannu yn Rhufain ar draul Sonzogno. Cyflwynodd Giordano Marina. Pan gyhoeddwyd yr enillwyr ym mis Mawrth 1890, y tri a ddewiswyd o'r 72 cyfan oedd Labillia gan Niccola Spinelli, Rudello gan Vincenzo Ferroni, a Cavalleria rusticana gan Mascagni, gyda Cavalleria yn ennill y Wobr Gyntaf. Fodd bynnag, derbyniodd Marina un o'r 13 "sylw anrhydeddus" a roddwyd am wneud argraff ar y beirniaid. Awgrymodd un o'r beirniaid, Amintore Gall, cynghorydd cerdd Sonzogno, bod y cyhoeddwr yn cynnig comisiwn i'r Giordano ifanc ar gyfer opera hyd lawn. [4]

Arweiniodd llwyddiant ysgubol Cavalleria rusticana a oedd yn seiliedig ar y ddrama verismo (realaeth) o’r un enw gan Giovanni Verga, at ddewis pwnc tebyg ar gyfer comisiwn Giordano. Dewisodd drama lwyddiannus Salvatore Di Giacomo a Goffredo Cognetti ym 1888, Mala vita. Roedd y ddrama, a osodwyd yn slymiau Napoli yng nghanol paratoadau ar gyfer gŵyl Pedigrotta, yn ei thro wedi ei seilio ar stori fer Di Giacomo, Il voto.

Hanes perfformiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gemma Bellincioni, a greodd rôl Cristina, a'i chanu yn y rhan fwyaf o berfformiadau'r opera rhwng 1892 a 1893

Perfformiwyd Mala vita am y tro cyntaf i lwyddiant mawr ar 21 Chwefror 1892 yn y Teatro Argentina gyda Roberto Stagno fel Vito a Gemma Bellincioni fel Cristina. Galwyd Giordano a'r cast yn ôl i'r llwyfan 24 gwaith ar ddiwedd y perfformiad. Aed a'r opera i Teatro di San Carlo yn Napoli gyda'r un cast. Roedd perfformiad Napoli ar 26 Ebrill 1892 yn smonach lwyr, yn cael ei bwio gan y gynulleidfa ac ymosodwyd arno gan y beirniaid y diwrnod canlynol. Roedd y newyddiadurwr Eugenio Sacerdoti yn galaru mai prin y gallai glywed y gerddoriaeth oherwydd "o'r dechrau, roedd y San Carlo fel cnud o gŵn yn cyfarth." [4] Deilliodd yr ymateb yn rhannol o ddicter bod stori mor anfoesol a oedd wedi'i gosod yn gyfan gwbl mewn slym yn ymddangos ar lwyfan cysegredig tŷ opera pwysicaf y ddinas. Ysgrifennodd Roberto Bracco yn y Corriere di Napoli ei fod yn difaru iddo fod yn dyst i Bellincioni a Stagno yn canu yng nghanol "llanast yr aleau" a "charchardai gwragedd pechadurus" (hy puteindai). [3] Fodd bynnag, yn ôl Matteo Sansone, roedd dicter hefyd bod cymeriadau amheus moesol yr opera a’r aleau gwichlyd yr oeddent yn byw ynddynt yn cael eu cyflwyno fel rhai nodweddiadol o Napoli. I geisio osgoi'r fath ymateb, roedd Daspuro wedi gosod y libreto yn benodol ym 1810, 80 mlynedd cyn première a gosodiad gwreiddiol drama Di Giacomo, er hynny perfformiwyd yr opera mewn gwisgoedd cyfoes yr 1890au.

Cafodd Mala vita dderbyniad llawer cynhesach gan y gynulleidfa yn Fienna pan gafodd ei gyflwyno y mis Medi canlynol yn yr Arddangosfa Ryngwladol o Gerddoriaeth a Theatr, ynghyd ag operâu eraill gan gyfansoddwyr Sonzogno, gan gynnwys Cavalleria rusticana, L'amico Fritz, a Pagliacci. Atgyfodwyd yr opera yn Fienna y flwyddyn ganlynol yn Theatre an der Wien. Fe'i llwyfannwyd ym Merlin yn y Krolloper ym mis Rhagfyr 1892 (canwyd yn Almaeneg o dan y teitl Das Gelübde) ac ym Mhrâg. Fe'i perfformiwyd hefyd mewn sawl dinas yn yr Eidal rhwng 1892 a 1893, gan gynnwys Milan (Teatro Dal Verme), Bologna (Teatro Brunetti), a Trieste (Politeama Rossetti). [5]

Poster yn hysbysebu perfformiad 1902 o Il voto, fersiwn ddiwygiedig Mala vita

Ar ôl 1893, diflannodd Mala vita o lwyfan yr opera. Fodd bynnag, penderfynodd Giordano geisio ail-weithio’r opera ar ôl ei lwyddiant gydag Andrea Chenier ym 1896. Gyda chymorth Daspuro, roedd Giordano wedi diwygio'r libreto ym 1894 ac wedi ceisio tynhau nodweddion verismo graenus y gwreiddiol yn y gobaith o'i wneud yn fwy derbyniol i gynulleidfaoedd Eidalaidd. Newidiwyd y lleoliad i Arenaccia, ardal breswyl wrth droed y bryniau gwyrdd o amgylch Napoli. Diflannodd y puteindy, a nodweddwyd Cristina nid fel "menyw syrthiedig" ond fel "menyw a fradychwyd" gyda phrofiad trasig amhenodol yn ei gorffennol. Newidiwyd y diweddglo hefyd. Yn lle dychwelyd i'r puteindy a phwnio ar ei ddrws, mae Cristina yn taflu ei hun i mewn i afon. Cafodd y cymeriad pwdr Annetiello ei ddileu yn llwyr. Perfformiwyd y gwaith diwygiedig, o dan ei deitl newydd Il voto, am y tro cyntaf ar 10 Tachwedd 1897 yn y Teatro Lirico ym Milan gydag Enrico Caruso fel Vito a Rosina Storchio fel Cristina. Ni chafodd y cynulleidfaoedd na'r beirniaid eu plesio. [6]

Nid oedd tynged Il voto ddim gwell na'i ragflaenydd. Ar ôl ychydig o berfformiadau achlysurol, gan gynnwys rhediad yn y Teatro Bellini yn Napoli ym 1902 gydag Armanda Degli Abbati fel Cristina, fe ddiflannodd hefyd o'r repertoire. [7]

Rolau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rôl Math o lais Cast premiere, 21 Chwefror, 1892
(Arweinydd: Vittorio Podesti)
Vito, lliwiwr sydd â'r diciâu tenor Roberto Stagno
Annetiello, gyrrwr coets bariton Beltrami Ottorino
Cristina, putain soprano Gemma Bellincioni
Amalia, gwraig Annetiello a meistres Vito mezzo-soprano Emma Leonardi
Marco, barbwr cantante basso Francesco Nicoletti
Nunzia, merch trin gwallt mezzo-soprano Giulia Sporeni
Dynion, menywod a phlant dosbarth gweithiol Napoli

Crynodeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleoliad: Slymiau chwarter Basso Porto yn Napoli ym 1810, ychydig ddyddiau cyn dechrau gŵyl Pedigrotta. [8]

Act 1

Darlun o ŵyl Pedigrotta ym 1813

Mae torf o bobl wedi ymgynnull yn y sgwâr y tu allan i weithdy llifio Vito. Mae merch trin gwallt, Nunzia, yn dweud wrth y dorf fod Vito, sydd â'r diciâu, wedi dioddef pwl drwg arall o'i afiechyd. Mae'r barbwr, Marco, a'r dorf yn nodi mai salwch Vito yw cosb Duw am ei berthynas â gwraig Annetiello, Amalia. Mae Vito, yn pesychu gwaed i'w hances, yn cael ei arwain i'r sgwâr gan ei ffrindiau. Mae'r dorf yn mynd yn dawel. Dywed ei fod yn dymuno y gallai farw, ond mae Nunzia yn awgrymu ei fod yn ceisio gweddïo am iachâd. Mae'n penlinio o flaen cysegrfa i'r croeshoeliad yn y sgwâr ac yn canu gweddi angerddol, "O Gesù mio... ". Mae'n ymbil am faddeuant ac iachâd Duw ac mae'n addo y bydd, fel iawn am ei bechod a diolch am ei iechyd, priodi "menyw syrthiedig" a'i hachub rhag bywyd o bechod. Wrth i'r dorf wasgaru, mae Amalia, sydd wedi clywed y weddi yn wynebu Vito ac yn mynnu eglurhad. Mae'n gwrthod ei hateb ac yn mynd yn ôl i'w weithdy.

Mae Annetiello yn cyrraedd, braidd yn feddw ac yn ôl pob golwg yn anymwybodol o berthynas ei wraig â Vito, er ei bod yn wybodaeth gyffredin yn y gymdogaeth. Mae'n gofyn i Marco a yw'r stori am adduned Vito yn wir. Mae Marco yn cadarnhau'r stori. Mae Annetiello ar hyn o bryd yn hidio dim, ond yna'n canu mawlgan i'r ŵyl Pedigrotta sy'n agosáu, ynghyd â'r bechgyn a'r dynion yn y sgwâr, "Tutto è già pronto". Yna mae'n mynd i mewn i'r dafarn i ailafael yn ei ddiota. Mae Vito yn dychwelyd i'r sgwâr ac yn siarad â Marco pan fydd blodyn yn cael ei daflu o ffenest puteindy ac yn glanio wrth draed Vito. Daw Cristina, putain o'r puteindy, i'r sgwâr i dynnu dŵr o'r ffynnon. Mae Vito yn gofyn iddi a oedd hi wedi taflu'r blodyn ac yn gofyn iddi am ddiod o ddŵr. Mae hi'n gadael iddo yfed o'r botel y mae wedi'i llenwi ond yna'n dechrau gadael. Mae Vito yn gofyn ei henw. Mae hi'n dweud wrtho, ond yn ceisio gadael eto. Gan gymryd ei llaw, mae Vito yn dweud wrthi ei bod hi'n brydferth ac yn ei holi am ei bywyd. Dywed Cristina wrtho ei bod yn aml wedi breuddwydio y byddai dyn yn cwympo mewn cariad â hi ac yn ei hachub o'i bywyd aflan.

Er mawr lawenydd i Cristina, dywed Vito wrthi mai ef yw'r dyn a fydd yn ei hachub. Daw Annetiello allan o'r dafarn, bellach hyd yn oed yn fwy meddw. Mae'n gwawdio Vito ac yn symud ymlaen i Cristina y mae wedi'i gydnabod o'i ymweliadau â'r puteindy. Mae Vito yn ei wthio i ffwrdd ac yn ailddatgan i'r Cristina trallodus y bydd yn ei phriodi. Mae Marco, Annetiello, a’r dorf yn galw Vito yn sant am ei haelioni i ddynes syrthiedig. Dywed Cristina wrth Vito ei bod yn ei addoli ac y bydd yn driw iddo.

Act 2

Mae Amalia yn ei thŷ yn gwnïo ac yn edrych yn bryderus ar y ffenestr wrth iddi aros am ymweliad gan Nunzia. Pan fydd Nunzia yn cyrraedd, mae Amalia yn gofyn iddi a yw'r si am briodas Vito a Cristina yn wir. Mae Nunzia yn ateb ei bod yn ymddangos y bydd y briodas yn mynd yn ei blaen. Yna mae Amalia yn gofyn i Nunzia ddod â Cristina iddi. Mae Annetiello yn ymddangos gyda'i ffrindiau. Mae'n pryfocio Nunzia ac yn ceisio'n aflwyddiannus i'w hatal rhag gadael. Yna mae'n llenwi gwydrau ei ffrindiau â gwin ac maen nhw i gyd yn canu brindisi, "Le mogli, in genere, son capricciose". Ar ôl geiriau llym gan Amalia, mae ei ffrindiau'n arwain Annetiello y tu allan.

Pan fydd Nunzia yn dychwelyd gyda Cristina, dywed Amalia wrthi ei bod hi hefyd mewn cariad angerddol â Vito ac na all ei hapusrwydd bara. Mae Amalia yn pledio gyda Cristina i ohirio’r briodas, yn cynnig arian iddi, ac o’r diwedd yn ei bygwth â chyllell. Fodd bynnag, mae Cristina yn parhau i fod yn gadarn. Mae Nunzia yn argyhoeddi Amalia i ollwng y gyllell ac yn ei pherswadio i dawelu.

Ar ôl i Nunzia a Cristina adael, mae Vito yn cyrraedd y tŷ. Mae'n dweud wrth Amalia i adael Cristina ar ei phen ei hun ac ar y dechrau mae'n gwrthod gwrando ar ei phle iddo ailafael yn eu carwriaeth. Y tu allan, mae storm fellt a tharanau treisgar yn dechrau. Mae Amalia yn taflu ei hun i freichiau Vito, ac ni all ei gwrthsefyll mwyach. Wrth i fellt fflachio, mae Cristina sy'n dal i fod y tu allan i'r tŷ, yn gweld Vito ac Amalia yn cofleidio trwy'r ffenest ac yn gweiddi "O Vito! Vito! " Mae Amalia yn cau'r caeadau yn ei hwyneb.

Tarantella Bernardelli, 1886

Act 3

Ar ddiwrnod gŵyl Pedigrotta, mae'r sgwâr y tu allan i weithdy Vito wedi'i lenwi â phobl. Mae Vito yn canu cân serch, "Canzon d'amor - che l'ala d’or-" Mae'r menywod sy'n aros i adael am yr ŵyl yn canu am eu gobeithion o syrthio mewn cariad yno ac yna dawnsio tarantela. Mae mwy o bobl wedi'u gwisgo â gaily yn cyrraedd dan arweiniad Annetiello sy'n canu mewn canmoliaeth o fwyta ac yfed, "Ce sta, ce sta nu mutto ca dice accussì". Yna mae'n eu harwain i'r ŵyl gan adael Vito ar ei phen ei hun yn y sgwâr.

Mae Vito yn cau ei weithdy pan fydd Cristina yn mynd ato ac yn gofyn a yw'n dal i garu hi. Mae'n ateb yn greulon ei bod hi'n gwybod popeth am gariad ac yna'n pwyntio at y puteindy. Mae Cristina yn torri i lawr mewn dagrau. Dywed Vito wrthi, er ei fod yn teimlo trueni drosti, na all adael Amalia. Mae rhwymau eu cariad wedi profi'n rhy gryf. Mae Amalia yn ymddangos, wedi'i gwisgo'n gain ar gyfer yr ŵyl ac yn dweud wrth Vito y bydd y goets y mae hi wedi'i archebu yn cyrraedd yn fuan. Mae Cristina yn pledio gyda Vito un tro olaf i gofio ei adduned a pheidio â rhoi’r gorau iddi. Er ei fod mewn trallod gan ei dagrau, dywed Vito wrth Cristina na all newid ei ffyrdd ac mae'n gadael gydag Amalia.

Nawr ar ei phen ei hun ac yn sefyll o flaen y gysegrfa lle'r oedd Vito wedi gwneud ei hadduned, mae Cristina yn canu am ei galar, sut roedd hi wedi dyheu am i rywun ei hachub o'i bywyd pechadurus, ond yn y diwedd roedd Duw wedi gwrthod ei dymuniad, "Lascia quei cenci". Oddi ar y llwyfan, clywir lleisiau yn canu cân Annetiello yng nghwmni gitarau a mandolinau. Mae Cristina yn sydyn yn rhedeg tuag at y puteindy, yn pwnio ar y drws, ac yna'n llewygu. Mae'r llen yn cwympo.

Recordio[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Umberto Giordano: Mala vita - Maurizio Graziani (Vito), Massimo Simeoli (Annetiello), Paola Di Gregorio (Cristina), Maria Miccoli (Amalia), Antonio Rea (Marco), Tiziana Portoghese (Nunzia); Cerddorfa Lirico Sinfonica del Teatro della Capitanata; Coro Lirico Umberto Giordano di Foggia; Angelo Cavallaro (arweinydd). Recordiwyd yn fyw yn y Teatro Giordano, Foggia ym mis Rhagfyr 2002. Label: Bongiovanni. [9]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Umberto Giordano | Italian composer". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-09-29.
  2. Nine, Keris (2018-10-29). "OperaJournal: Leoni/Giordano - L'Oracolo/Mala vita (Wexford, 2018)". OperaJournal. Cyrchwyd 2020-09-29.
  3. 3.0 3.1 Sansone, Matteo (1994). "Giordano's 'Mala vita': a 'verismo' Opera Too True to Be Good". Music & Letters 75 (3): 381–400. ISSN 0027-4224. https://www.jstor.org/stable/737344.
  4. 4.0 4.1 Mallach, Alan (2007). The Autumn of Italian Opera: From Verismo to Modernism, 1890-1915, pp. 84-88. University Press of New England. ISBN 1555536832
  5. Végeto, Raffaele (1968). Umberto Giordano, t. iii. Casa musicale Sonzogno
  6. "GIORDANO, Umberto in "Dizionario Biografico"". www.treccani.it (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2020-09-29.
  7. "Umberto Giordano | Biography & History". AllMusic. Cyrchwyd 2020-09-29.
  8. "Umberto Giordano, Mala Vita, Naples, Salvatore di Giacomo, O Voto, Nicola Daspuro, verismo | OperaStory". Cyrchwyd 2020-09-29.
  9. Giordano: Mala vita - Angelo Cavallaro | Songs, Reviews, Credits | AllMusic, https://www.allmusic.com/album/giordano-mala-vita-mw0001396295, adalwyd 2020-09-29