Mai Jones

Oddi ar Wicipedia
Mai Jones
Ganwyd6 Chwefror 1899 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mai 1960 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, pianydd, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Math o laiscontralto Edit this on Wikidata

Roedd Gladys May 'Mai' Jones (16 Chwefror 18997 Mai 1960) yn bianydd, cyfansoddwr a chynhyrchydd radio[1], sy'n cael ei chofio'n bennaf fel cyfansoddwr y dôn i'r gân "We'll Keep a Welcome".[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones yng Nghasnewydd yn unig ferch i Thomas John Jones, gorsaf-feistr y dref a Beatrice ei wraig. Roedd y tad yn Gymro Cymraeg a'r fam yn ddi-gymraeg, ond yn groes i'r arfer yng Ngwent y cyfnod, magwyd Mai i fod yn rhugl yn y ddwy iaith[3]. Er yn ifanc iawn dangosodd Mai dawn fel pianydd gan ennill mewn eisteddfodau. Yn 10 mlwydd oed fe'i penodwyd hi'n organydd Capel yr Annibynwyr Mynydd Seion, Casnewydd, ac fe'i penodwyd yn un o gyfeilyddion swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl, 1924. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg Cerdd Brenhinol, Llundain.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gan ganu llais, piano ac acordion a thrwy ddynwared artistiaid eraill, dechreuodd dod i sylw'r cyhoedd ar y sin adloniant ysgafn yn Llundain y 1920au. Bu'n aelod o sawl grŵp amlwg gan gynnwys The Five Magnets , The Carroll Sisters (gyda Elsie Eaves fel ei chwaer), The Three Janes a band dawns y BBC dan arweiniad Jack Payne, gyda band Payne gwnaeth ei darllediad radio gyntaf ym 1928.

Yn ystod yr ail ryfel byd bu Jones yn gweithio fel cyfarwyddwr radio i'r BBC, ymysg y rhaglenni poblogaidd a chynhyrchwyd ganddi oedd Welsh Rarebit, Saturday Starlight, Merry-go-round a Silver Chords; fel rhan o raglen Welsh Rarebit cyfansoddwyd We'll Keep a Welcome, a ganwyd am y tro cyntaf gan Gantorion Lyrian ar 29 Chwefror 1940[4].

Ymysg ei chyfansoddiadau nodedig eraill bu: Blackbirds (1924), Wondering If You Remember (1927), Nos Da/Good night (1946) a Rhondda Rhapsody (1951); hi fu'n gyfrifol am y gerddoriaeth a chynhyrchu'r pantomeim Cymraeg cyntaf i'w darlledu sef Twm Sïon Cati

Ymddeolodd o'r BBC ym 1960.

Priodas a Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Ym 1947 priododd David Davies, cydweithiwr yn y BBC; ni fu iddynt blant.

Bu farw yn ei chartref, yng Nghasnewydd yn 61 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Eglwys Sant Gwynllyw yn y dref.

Yn 2010 rhoddwyd plac glas ar furiau ei chartref olaf yn St Mark's Crescent, Casnewydd[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  JONES, GLADYS MAY, ‘MAI’ (1899 - 1960). Y Bywgraffiadur. Adalwyd ar 26 Mai 2016.
  2. Mai Jones - We’ll Keep a Welcome adalwyd 26 Mai, 2016
  3. Yr archif Genedlaethol Cyfrifiad 1911 ar gyfer 40 Christchurch Road, Casnewydd cyfeirnod RG14PN31987 RG78PN1840 RD587 SD2 ED28 SN303/31987
  4. Welsh Rarebit: "We'll Keep a Welcome"
  5. South Wales Argus 10 Mai 2010 Plaque honours Newport composer of Welsh classic adalwyd 26 Mai 2016