Maes Awyr Rhyngwladol Faro

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Faro01LB.jpg
Faro02LB.jpg

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Faro (Portugiwgaleg: Aeroporto Internacional de Faro) Nodyn:Côd FAO yn faes awyr 4 cilomedr i’r gorllewin o’r dref Faro ym Mhortiwgal. Enw arall y maes awyr yw Maes Awyr yr Algarve. Agorwyd y maes awyr ym mis Gorffennaf 1965.[1]

Adeiladwyd prif adeilad newydd ym 1989, ac ehangwyd yr adeilad yn 2001. Gwellhawyd yr adeiladau a rhedfeydd rhwng 2009 a 2013.[2]

Mae bysiau cwmni Proximo (rhifau 14 a 16) yn mynd yn rheolaidd o’r maes awyr i orsaf reilffordd Faro a Gorsaf fwysiau Faro ar eu ffordd o Praia de Faro.[3][4]

Mae hyd y rhedfa’n 2,490 medr. Mae’r maes awyr yn prosesu dros 40,000 o ehediadau’n flynyddol, y mwyafrif rhwng Mawrth a Hydref.[5]

Perchennog y maes awyr yw O estado nacional de Portugal. Mae awdurdod cenedlaethol meysydd awyr Portiwgal, ANA Aeroportos de Portugal, yn weithredwyr y maes awyr. The airport’s runway (28-10) is 2,490m long and 45m wide. [6]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Flag of Portugal.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Bortiwgal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.