Maen Penddu
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math | safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Maen hir o Oes Newydd y Cerrig neu efallai Oes yr Efydd ydy Maen Penddu, a leolir ar lethrau gogleddol Tal y Fan rhwng Penmaenmawr a Henryd, Sir Conwy; cyfeirnod OS: SH738735.
Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Saif y maen hir unigol hwn ar y ffin rhwng cymunedau Penmaenmawr a Henryd. Mae ffiniau'r cymunedau modern hyn yr un â ffiniau'r plwyfi eglwysig, sef Dwygyfylchi a Henryd. Roedd yn arfer cyffredin dewis henebion amlwg i nodi ffiniau hen blwyfi. Mae'n gorwedd ar darn o dir gweddol wastad rhwng Cefn Maen Amor a llethrau gogleddol Tal y Fan.
Gerllaw ceir dwy heneb gynhanesyddol arall. Mae Cylch cerrig Cefn Maen Amor yn gylch o gerrig bychan iawn, llai na throedfedd o uchder. Yn agos iddo ceir carnedd gron.