Maen Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Maen Gwynedd
Math Maen hir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.855271°N 3.301763°W Edit this on Wikidata
Maen Gwynedd

Maen hir ar y ffin rhwng Powys a Gwynedd yw Maen Gwynedd. Saif ychydig islaw Bwlch Maen Gwynedd ar lethrau mynyddoedd Y Berwyn. Cyfeirnod OS: SJ 081337 (Landranger 125). Cafodd yr enw am ei fod yn dynodi'r ffin rhwng teyrnasoedd Gwynedd a Phowys yn yr Oesoedd Canol.[1] Ceir ambell gyfeiriad ato yng ngwaith y beirdd Cymraeg canoloesol.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif y maen hir hwn ger pen Bwlch Maen Gwynedd ar ochr Powys i'r bwlch, i'r de o gopa Cadair Bronwen, yng nghymuned Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Mae'n garreg 2 metr hir, main iawn, sy'n gogwyddo ar ongl o 60 gradd i gyfeiriad y dwyrain. Dyma'r garreg yr enwir y bwlch ar ei hôl; nodai'r ffin rhwng y ddwy deyrnas ganoloesol ond gallai fod yn llawer hŷn ac yn dyddio o'r oesoedd cynhanesyddol, er nad oes sicrwydd o hynny.[1]

Lleolir Maen Gwynedd ar lwybr cynhanesyddol a adnabyddir fel 'Ffordd Gamelin'. Rhedai'r llwybr masnach hwnnw rhwng gorllewin Meirionnydd a gogledd Powys, rhan o rwydwaith o "ffyrdd" cynhanesyddol a gysylltai arfordir gogledd-orllewin Cymru a de Lloegr.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Helen Burnham, Clwyd and Powys, yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tud. 64.
  2. E.G. Bowen a C.A. Gresham, History of Merioneth, Cyfrol 1 (Dolgellau, 1967).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]