Mae Jemison

Oddi ar Wicipedia
Mae Jemison
GanwydMae Carol Jemison Edit this on Wikidata
17 Hydref 1956 Edit this on Wikidata
Decatur Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Stanford
  • Coleg Meddygol Weill Cornell
  • Ysgol Beirianneg Prifysgol Stanford
  • Morgan Park High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgofodwr, meddyg, athro cadeiriol, ffisegydd, actor, peiriannydd, awdur plant Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auMedal Gofodwyr NASA, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Medal Elizabeth Blackwell, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Texas, Gwobr Rachel Carson, Cymrawd yr AAAS, International Space Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.drmae.com/ Edit this on Wikidata

Gofodwraig a meddyg Americanaidd yw Mae Carol Jemison (ganwyd 17 Hydref 1956). Hi oedd yr ofodwraig Americanaidd ddu gyntaf.

Ganwyd yn Decatur, Alabama, a symudodd gyda'i theulu i Chicago yn 3 oed. Graddiodd o'r uwchysgol yn 16 oed ac enillodd raddau mewn peirianneg gemegol ac astudiaethau Affricanaidd-Americanaidd o Brifysgol Stanford. Astudiodd meddygaeth ym Mhrifysgol Cornell a bu'n teithio i Wlad Tai i wirfoddoli mewn gwersyll ar gyfer ffoaduriaid o Gambodia, ac i astudio yng Nghenia. Graddiodd o'r ysgol feddygol ym 1981, a gweithiodd am gyfnod fel meddyg yn Los Angeles. Ymunodd â'r Corfflu Heddwch fel swyddog meddygol yng Ngorllewin Affrica, ac yno gweithiodd ar sawl prosiect ymchwil gan gynnwys datblygu brechlyn ar gyfer hepatitis B.[1]

Mae Jemison ym 2009.

Dychwelodd Jemison i'w gwaith meddygol yn Los Angeles tra'n parhau a'i hastudiaethau peirianneg. Penderfynodd i ymuno â NASA, a hi oedd un o'r 15 o ofodwyr dan hyfforddiant a gawsant eu dewis allan o 2,000 o ymgeiswyr.[2] Cafodd ei hyfforddi'n berwyl-arbenigwraig (mission specialist) a gweithiodd yng Nghanolfan Ofod Kennedy yn Cape Canaveral wrth wirio meddalwedd y wennol ofod a'i phrosesu ar gyfer ei lansio. Gweithiodd ar y berwyl ofod gyntaf rhwng yr Unol Daleithiau a Japan, STS-47 Spacelab J. Aeth Jemison ar ei thro cyntaf i'r gofod ym Medi 1992 ar y wennol Endeavour. Treuliodd mwy nag wythnos mewn orbit o amgylch y Ddaear.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Mae Jemison. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Awst 2017.
  2. Alan Copps. "Mae's real life beats the advert", The Times (3 Ionawr 1998). Adalwyd ar Archif Ddigidol The Times ar 1 Mai 2018.