Niccolò Machiavelli
(Ailgyfeiriad oddi wrth Machiavelli)
Jump to navigation
Jump to search
Niccolò Machiavelli | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Niccolò di Bernardo dei Machiavelli ![]() 3 Mai 1469 ![]() Fflorens ![]() |
Bu farw |
21 Mehefin 1527, 22 Mehefin 1527 ![]() Achos: peritonitis ![]() Sant'Andrea in Percussina ![]() |
Dinasyddiaeth |
Gweriniaeth Fflorens ![]() |
Galwedigaeth |
ysgrifennwr, gwleidydd, hanesydd, athronydd, damcaniaethwr gwleidyddol, military theorist, cyfieithydd, bardd, diplomydd ![]() |
Adnabyddus am |
Il Principe, Discourses on Livy ![]() |
Mudiad |
yr Uchel Ddadeni ![]() |
Tad |
Bernardo di Niccolò Machiavelli ![]() |
Plant |
Piero Macchiavelli, Bartolomea Macciavelli, Bernardo Macciavelli, puton, Guido Machiavelli ![]() |
Perthnasau |
Niccolò Machiavelli ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Diplomydd, athronydd gwleidyddol, bardd a dramodydd Eidalaidd oedd Niccolò Machiavelli (3 Mai 1469 – 21 Gorffennaf 1527). Roedd yn byw mewn cyfnod cyffrous iawn yn hanes yr Eidal. Nid oedd yr Eidal yn unedig ar y pryd, yn hytrach wedi ei rhannu i fyny i lawer o dywysogaethau megis Fflorens, Fenis a Rhufain. Roedd yn gyfnod o frwydro rhwng y Tywysogaethau, Sbaen a Ffrainc.
Ysgrifennodd y llyfr Il Principe, a gyhoeddwyd ym 1532 wedi ei farw.
Hanes Machiavelli a Fflorens o 1494 ymlaen[golygu | golygu cod y dudalen]
- 1494 – Teulu'r Medici yn colli grym a Girolamo Savonarola yn arwain y weriniaeth rydd. Machiavelli yn cael swydd gyhoeddus yn y lywodraeth newydd.
- 1498 – Savonarola yn colli cefnogaeth y bobl ac yn cael ei ddienyddio ond y weriniaeth yn parhau.
- 1500 – Danfonwyd Machiavelli i drafod y rhyfel yn erbyn Pisa gyda Louis XII.
- 1503 – Danfonwyd Machiavelli i arolygu yr etholiad i ganfod olynydd i'r Pab Pius III.
- 1512 – Y Medici yn dod yn ôl i rym a'r weriniaeth yn syrthio. Machiavelli yn colli ei swydd gyhoeddus. Fe’u hamheuwyd gan y Medici o gynllwynio yn eu herbyn felly fe’u carcharwyd ac fe’u gwestiynwyd drwy boenydio.
- 1527 – Fe daflwyd y Medici allan o Fflorens unwaith eto gan y blaid boblogaidd. Rhuthrodd Machiavelli yn ôl i Fflorens yn y gobaith o gael ei swydd gyhoeddus yn ôl ond yn fuan ar ôl cyrraedd Fflorens fe aeth yn sâl a fu farw'r flwyddyn honno.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Il Principe at MetaLibri Digital Library
|