Maches

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ffenestr liw yn Llanogo, Sir Fynwy, yn cynnwys llun o Faches.

Santes o'r 6g oedd Maches (Lladin: Machuta, a roddodd ei henw i'r pentref Llanfaches (cyn hynny: 'Merthyr Maches').

Bu yn ferch i Gwladys ach Brychan a Gwynllwg ac yn chwaer i Cadog, Cyfyw, Cynidr a Glywys.[1] Credir mai bugail ydoedd ac iddi gael ei lladd gan ladron penffordd a geisiodd ddwyn ei maharen.[2] Mae eraill yn dweud ei bod hi wedi lladd gan pagan a aeth ati fel cardotyn a trywanwyd hi gyda cyllell

Yn ôl y traddodiad, cododd Tathew eglwys iddi yn Llanfaches (a alwyd cyn hynny yn 'Ferthyr Marches') er cof amdani, ond symudwyd ei chorff i eglwys yng Nghaer-went.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylid darllen yr erthygl hon yng nghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • D. Simon Evans (gol.), Buched Dewi (Caerdydd, 1959).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Spencer, R. 1991, Saints of Wales and the West Country, Llanerch
  2. catholicsaints.info; adalwyd 12 Mehefin 2016.