Mabel Vernon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mabel Vernon
Mabel Vernon 1910s.jpg
Ganwyd 19 Medi 1883 Edit this on Wikidata
Wilmington Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Medi 1975 Edit this on Wikidata (91 oed)
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaeth Athro, gweithredydd heddwch, Swffragét, ymgyrchydd pleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr 'Hall of Fame' Merched Delaware Edit this on Wikidata

Ffeminist o Unol Daleithiau America oedd Mabel Vernon (19 Medi 1883 - 2 Medi 1975) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel athro, gweithredydd dros heddwch, swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Roedd yn grynwr, o ran crefydd.

Cafodd ei geni yn Wilmington, Delaware ar 19 Medi 1883. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia a Choleg Swarthmore. Ym Mhrifysgol Columbia, yn 1924, derbynniodd radd meistr mewn gwleidyddiaeth.[1]

Cafodd Vernon ei ysbrydoli gan y dulliau a ddefnyddiwyd gan Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (Women's Social and Political Union) yng ngwledydd Prydain. Roedd Vernon hefyd yn un o brif aelodau (CUWS) ochr yn ochr ag Olympia Brown, Inez Milholland, Crystal Eastman, Lucy Burns, ac Alice Paul, a helpodd i drefnu protestiadau'r 'Gwyliedydd Tawel' ( Silent Sentinels) a oedd yn cynnwys picedu y Tŷ Gwyn, dan ofal yr Arlywydd Woodrow Wilson, yn ddyddiol.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Silent Sentinels am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Officers and National Organizers T-Z: Mabel Vernon (1883-1975)". American Memory. Library of Congress. Cyrchwyd 2 April 2013.