Alice Paul
| Alice Paul | |
|---|---|
| Ganwyd | 11 Ionawr 1885 Mount Laurel |
| Bu farw | 9 Gorffennaf 1977 Moorestown |
| Man preswyl | Paulsdale |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfreithegwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét |
| Prif ddylanwad | Emmeline Pankhurst, Christabel Pankhurst |
| Mudiad | ffeministiaeth, pleidlais i ferched |
| Perthnasau | William Penn |
| Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Menywod Connecticut, Hall of Fame Menywod New Jersey, Neuadd Enwogion New Jersey, Medal y Swffragét |
| Gwefan | https://www.alicepaul.org/ |
Ffeminist o'r Unol Daleithiau oedd Alice Paul (11 Ionawr 1885 - 9 Gorffennaf 1977) sy'n nodedig am ei gwaith fel cyfreithegydd a arbenigai mewn hawliau merched, ac fel swffragét.
Cafodd Alice Stokes Paul ei geni yn Mount Laurel, New Jersey ar 11 Ionawr 1885; bu farw yn Moorestown Township, New Jersey. Hi oedd yr hynaf o bedwar o blant William Mickle Paul I (1850–1902) a Tacie Paul (g. Parry), ac roedd yn ddisgynnydd i William Penn, sefydlydd y Crynwyr yn Pennsylvania.[1][2][3]
Roedd Paul yn un o brif arweinwyr a strategwyr yr ymgyrch dros ddiwygio'r bedwaredd diwygiad ar bymtheg o Gyfansoddiad Unol Daleithiau America, sydd bellach yn gwahardd gwahaniaethu ar sail rhyw yn yr hawl i bleidleisio. Cynlluniodd Paul, ynghyd â Lucy Burns ac eraill, ddigwyddiadau strategol megis Gorymdaith Etholfraint y Menywod (Woman Suffrage Procession) a'r Gwyliedydd Tawel (the Silent Sentinels), a oedd yn rhan o'r ymgyrch lwyddiannus a arweiniodd at dderbyn y gwelliant yn 1920.
Ar ôl 1920, treuliodd Paul hanner canrif fel arweinydd Plaid Genedlaethol y Menywod, a ymladdodd dros y Gwelliant (Hawliau Cyfartal) neu Equal Rights Amendment, a ysgrifennwyd gan Paul a Crystal Eastman, i sicrhau cydraddoldeb cyfansoddiadol i fenywod. Enillodd gryn lwyddiant gyda chynnwys menywod fel grŵp a ddiogelwyd yn erbyn gwahaniaethu gan Ddeddf Hawliau Sifil 1964.
Cafodd ei magu yn nhraddodiad y Crynwyr - traddodiad a oedd yn rhoi gwasanaethu'r cyhoedd yn flaenoriaeth; roedd ei hynafiaid yn aelodau o Bwyllgor Gohebiaeth Newydd Jersey (New Jersey Committee of Correspondence) yn y 19g. Dysgodd Alice am etholfraint gan ei mam, a oedd yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol Menywod America (NAWSA). Weithiau byddai Paul yn ymuno â'i mam i yng nghyfarfodydd y swffragétiaid.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd, Silent Sentinels, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd. [4][5]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1979), Oriel yr Anfarwolion Menywod Connecticut (1994), Hall of Fame Menywod New Jersey (2012), Neuadd Enwogion New Jersey (2010), Medal y Swffragét[6][7][8][9] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dyddiad geni: "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Stokes Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Stokes Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Alice Paul". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: https://www.nps.gov/people/alice-paul.htm.
- ↑ Alma mater: https://www.womenshistory.org/education-resources/biographies/alice-paul. https://www.britannica.com/biography/Alice-Paul.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/alice-paul/. https://www.cwhf.org/inductees/alice-paul. https://www.njwla.org/new-jersey-womens-hall-of-fame/. https://njhalloffame.org/hall-of-famers/2010-inductees/alice-paul/.
- ↑ https://www.womenofthehall.org/inductee/alice-paul/.
- ↑ https://www.cwhf.org/inductees/alice-paul.
- ↑ https://www.njwla.org/new-jersey-womens-hall-of-fame/.
- ↑ https://njhalloffame.org/hall-of-famers/2010-inductees/alice-paul/.