Neidio i'r cynnwys

Crystal Eastman

Oddi ar Wicipedia
Crystal Eastman
Ganwyd25 Mehefin 1881 Edit this on Wikidata
Marlborough Edit this on Wikidata
Bu farw8 Gorffennaf 1928 Edit this on Wikidata
o clefyd yr arennau Edit this on Wikidata
Erie Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, newyddiadurwr, ymgyrchydd heddwch, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ysgrifennwr, cyfreithegwr, cyhoeddwr, ffeminist Edit this on Wikidata
MudiadDadeni Harlem Edit this on Wikidata
MamAnnis Bertha Ford Eastman Edit this on Wikidata
PriodWalter Fuller Edit this on Wikidata
PlantJeffrey Fuller Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod Edit this on Wikidata

Ffeminist o'r Unol Daleithiau oedd Crystal Eastman (25 Mehefin 1881 - 8 Gorffennaf 1928) sy'n nodigedig am ei gwaith fel cyfreithiwr, newyddiadurwr, gweithredydd heddwch a swffragét. Caiff ei chofio orau fel arweinydd yn y frwydr dros bleidlais menywod, fel cyd-sylfaenydd a chyd-olygydd gyda'i brawd Max Eastman y cylchgrawn celfyddydau a gwleidyddiaeth radical The Liberator, cyd-sylfaenydd Cynghrair Rhyngwladol y Menywod dros Heddwch a Rhyddid, a chyd-sylfaenydd yn 1920 o Undeb Hawliau Sifil America. Yn 2000 cafodd ei derbyn i Neuadd Enwogion Cenedlaethol y Menywod yn Seneca Falls, Efrog Newydd.

Cafodd ei geni yn Marlborough ar 25 Mehefin 1881; bu farw yn Erie. Priododd Wallace J. Benedict, am gyfnod byr a phan ysgarwyd y ddau, symudodd Eastman i Milwaukee gydag ef. Roedd Jeffrey Fuller yn blentyn iddi. Dylanwadwyd arni hi a'i brawd Max gan sosialaeth ac roedd y ddau'n agos iawn at ei gilydd, gan fyw yn yr un cartref.[1][2][3][4]

Graddiodd Eastman o Goleg Vassar yn 1903 a derbyniodd M.A mewn cymdeithaseg (maes cymharol newydd) o Brifysgol Columbia yn 1904. Derbyniodd radd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Efrog Newydd, a daeth yn ail orau yn ei blwyddyn yn 1907. [5][6][7][8]

Edrych nôl a gwerthuso

[golygu | golygu cod]

Anwybyddwyd Freeman am flynyddoedd ac er iddi ysgrifennu deddfwriaeth arloesol a chreu sefydliadau gwleidyddol parhaol, diflannodd o hanes am hanner can mlynedd. Ysgrifennodd Freda Kirchwey, golygydd The Nation ar adeg ei marwolaeth: "Pan siaradodd â phobl — boed bwyllgor neu dorf anferthol — roedd calonnau'n curo'n gyflymach. I filoedd hi oedd y symbol o'r hyn a allai menyw rydd fod. "[9]


Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (2000)[10] .

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Disgrifiwyd yn: Thomas Dublin; Kathryn Kish Sklar, eds. (yn en), Online Biographical Dictionary of the Woman Suffrage Movement in the United States, Alexander Street Press, Wikidata Q66663817, https://documents.alexanderstreet.com/VOTESforWOMEN
  2. Rhyw: Thomas Dublin; Kathryn Kish Sklar, eds. (yn en), Online Biographical Dictionary of the Woman Suffrage Movement in the United States, Alexander Street Press, Wikidata Q66663817, https://documents.alexanderstreet.com/VOTESforWOMEN
  3. Dyddiad geni: "Crystal Eastman". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Crystal Eastman". SNAC. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. Lean'tin L. Bracks; Jessie Carney Smith, gol. (2014). Black Women of the Harlem Renaissance Era (yn Saesneg). Lanham: The Globe Pequot Publishing Group. ISBN 978-0-8108-8542-4. Wikidata Q139297408.
  4. Dyddiad marw: "Crystal Eastman". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Crystal Eastman". SNAC. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. Lean'tin L. Bracks; Jessie Carney Smith, gol. (2014). Black Women of the Harlem Renaissance Era (yn Saesneg). Lanham: The Globe Pequot Publishing Group. ISBN 978-0-8108-8542-4. Wikidata Q139297408.
  5. Alma mater: Lean'tin L. Bracks; Jessie Carney Smith, gol. (2014). Black Women of the Harlem Renaissance Era (yn Saesneg). Lanham: The Globe Pequot Publishing Group. ISBN 978-0-8108-8542-4. Wikidata Q139297408. Lean'tin L. Bracks; Jessie Carney Smith, gol. (2014). Black Women of the Harlem Renaissance Era (yn Saesneg). Lanham: The Globe Pequot Publishing Group. ISBN 978-0-8108-8542-4. Wikidata Q139297408.
  6. Galwedigaeth: Lean'tin L. Bracks; Jessie Carney Smith, gol. (2014). Black Women of the Harlem Renaissance Era (yn Saesneg). Lanham: The Globe Pequot Publishing Group. ISBN 978-0-8108-8542-4. Wikidata Q139297408. Lean'tin L. Bracks; Jessie Carney Smith, gol. (2014). Black Women of the Harlem Renaissance Era (yn Saesneg). Lanham: The Globe Pequot Publishing Group. ISBN 978-0-8108-8542-4. Wikidata Q139297408. Thomas Dublin; Kathryn Kish Sklar, eds. (yn en), Online Biographical Dictionary of the Woman Suffrage Movement in the United States, Alexander Street Press, Wikidata Q66663817, https://documents.alexanderstreet.com/VOTESforWOMEN Lina Mainiero; Langdon Lynne Faust (1979) (yn en), American Women Writers, Wikidata Q106787730 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 133298515, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 20 Ebrill 2026 Lean'tin L. Bracks; Jessie Carney Smith, gol. (2014). Black Women of the Harlem Renaissance Era (yn Saesneg). Lanham: The Globe Pequot Publishing Group. ISBN 978-0-8108-8542-4. Wikidata Q139297408. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 133298515, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 20 Ebrill 2026
  7. Aelodaeth: Thomas Dublin; Kathryn Kish Sklar, eds. (yn en), Online Biographical Dictionary of the Woman Suffrage Movement in the United States, Alexander Street Press, Wikidata Q66663817, https://documents.alexanderstreet.com/VOTESforWOMEN http://www.elisarolle.com/queerplaces/ch-d-e/Crystal%20Eastman.html.
  8. Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/crystal-eastman/.
  9. "Crystal Eastman". Vassar College: Innovators. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-08. Cyrchwyd 18 Hydref 2011.
  10. https://www.womenofthehall.org/inductee/crystal-eastman/.