MC Hammer
Gwedd
| MC Hammer | |
|---|---|
| Ffugenw | MC Hammer |
| Ganwyd | Stanley Kirk Burrell 30 Mawrth 1962 Oakland |
| Man preswyl | Ardal Bae San Francisco, Oakland |
| Label recordio | Death Row Records, EMI, Capitol Records, Giant Records, Reprise Records, Warner Records |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | rapiwr, entrepreneur, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau, coreograffydd, Llefarydd, actor, dawnsiwr, canwr |
| Adnabyddus am | U Can't Touch This, Too Legit to Quit, Pumps and a Bump |
| Arddull | hip hop, pop rap, cerddoriaeth ddawns, cerddoriaeth yr efengyl, cerddoriaeth boblogaidd |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
| Gwobr/au | Gwobr Golden Raspberry am y Gân Wreiddiol Waethaf, Gwobr Grammy am y Fideo Cerdd Gora |
| Gwefan | http://www.mchammer.com |
Rapiwr, diddanwr, dyn busnes, actor a dawnsiwr o'r Unol Daleithiau yw Stanley Kirk Burrell sy'n fwy adnabyddus o dan yr enw llwyfan M.C. Hammer neu weithiau Hammer (ganed 30 Mawrth, 1962). Cafodd lwyddiant masnachol ar ddiwedd y 1980au tan ganol y 1990au. Mae'n adnabyddus hefyd am ei esgyniad sydyn i enwogrwydd cyn colli'r rhan fwyaf o'i ffortiwn bersonol. Ei gân fwyaf llwyddiannus oedd "U Can't Touch This", ond caiff ei gofio hefyd am ei ddawnsio a'i drowsus unigryw. Mae ef wedi gwerthu dros 50 miliwn o recordiau yn fyd-eang.