Louie Myfanwy Thomas

Oddi ar Wicipedia
Louie Myfanwy Thomas
Ganwyd29 Chwefror 1908 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ionawr 1968 Edit this on Wikidata
Rhuthun Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnofelydd Edit this on Wikidata

Nofelydd oedd Louie Myfanwy Thomas (29 Chwefror 190825 Ionawr 1968) oedd yn ysgrifennu dan yr enw Jane Ann Jones.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd yn unig blentyn Walter Owen Davies a'i wraig Elizabeth Jane (Jones) mewn bwthyn ger Holway, Treffynnon, sir y Fflint. Yn 1909 yn 26 oed, bu farw ei mam, a symudodd y teulu i fyw i'r Rhuddlan ble cafodd ei magu gan ei nain am gyfnod. Derbyniodd Louie Myfanwy ei haddysg yn ysgol elfennol yr Eglwys ac yn Ysgol Uwchradd y Rhyl, a symudodd i fyw i Gaernarfon ble bu'n gweithio mewn siop i'w thad, ac mewn swyddfa bapurau newydd (cf.y stori 'Lol' yn Storiau Hen Ferch), cyn cael ei phenodi yn glerc Adran Addysg Cyngor Sir Ddinbych yn Hydref 1927. Symudodd i Rhuthun a buan y daeth yn ysgrifenyddes i J.C.Davies, y Cyfarwyddwr Addysg, ac i Edward Rees ar ei ôl. Erbyn 1944 roedd wedi priodi a Richard Thomas, Prif Glerc Adran Addysg Cyngor Sir Ddinbych, sef ei ail wraig, ond ni chawsant blant.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ysgrifennai Louie Myfanwy Thomas dan yr enw Jane Ann Jones. Enw morwynol ei mam oedd Elizabeth Jane Jones ac mae'n bosibl bod Louie Myfanwy wedi seilio Jane Ann Jones ar hynny. Nid yw'n hysbys a ddaeth Louie Myfanwy i wybod yn ddiweddarach yn ei bywyd pwy oedd ei mam a gellir amau a fyddai wedi llwyddo i ddod o hyd i'w henw morwynol pe bai hynny o bwys. Mynnai Louie Myfanwy gadw'i bywyd llenyddol yn gyfrinach ac y mae'r enw Jane Ann Jones yn enw mor ddi-nod a chyffredin fel na fyddai neb yn ei gysylltu â hi. Dywed Kate Roberts yn ei hysgrif goffa yn Y Faner, ‘Cadwyd yr enw “Jane Ann Jones” yn gyfrinach rhwng pedwar ohonom am flynyddoedd maith, ac ni châi neb wybod pwy ydoedd'. Ni wyddai ei theulu na'i chyfeillion, na'i chydweithwyr yn y swyddfa, am ei gyrfa lenyddol am rai blynyddoedd. Gwyddent y byddai'n darllen llawer - âi i'r llyfrgell yn aml i archebu llyfrau newydd a gawsai eu hadolygu yn y Daily Post er enghraifft - ond syndod i'r rhai a'i hadwaenai oedd darganfod ei bod yn awdur.’

Enillodd gan punt am nofel yng nghystadleuaeth Y Cymro yn 1953 (gw. Y Cymro, 30 Hyd. 1953). Ei ffugenw oedd "Jini Jos" a chyhoeddwyd mai Jane Ann Jones oedd yr enillydd. ‘Y mae'r gyfrinach i'w chadw’ medd Y Cymro ynglŷn â hi. (Y beirniaid oedd Islwyn Ffowc Elis, John Roberts Williams a T. Bassett). Mae lle i gredu y bu'n cystadlu rywfaint yn yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd gyrrodd Diwrnod yw Ein Bywyd i gystadleuaeth y nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949 dan y ffugenw Ffanni Llwyd, a chael beirniadaeth arni gan D.J. Williams, Abergwaun (gw. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, 153). Cyhoeddodd Y Cymro stori fer o'i heiddo ar 9 Ebr. 1954 - ‘Trwy Ddrych Mewn Dameg’ - stori a ddisgrifir fel ‘stori gryno, gyflawn, stori ddwys. Stori grefftus. Stori ddidramgwydd…’ a bu'n ysgrifennu sgriptiau a dramâu ar gyfer y B.B.C. am tua 10-15 mlynedd ond rhoes y gorau iddi ar ôl i'r B.B.C. ofyn iddi newid neu addasu ei harddull.

Cyhoeddodd y llyfrau canlynol, i gyd o dan yr enw Jane Ann Jones: Storïau Hen Ferch (Gwasg Aberystwyth, 1937); Y Bryniau Pell (Gwasg Gee, 1949); Diwrnod yw Ein Bywyd (Hughes a'i Fab, 1954 ); Plant y Foty (George Ronald, Caerdydd, 1955); Ann a Defi John (Gwasg y Brython, 1958).

Cofir amdani'n berson gwylaidd a thawel, hynaws a galluog, ond tystir gan rai nad oedd hi'n tybio fod Kate Roberts wedi bod yn garedig ynglŷn â dim a ysgrifennai. Yn ôl a ellir casglu o'i gwaith ei hun roedd yn wraig annibynnol ei meddwl a thuedd feirniadol ynddi. Bu f. yn ysbyty Rhuthun 25 Ion. 1968 .[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]