Neidio i'r cynnwys

Llywelyn ab Ynyr

Oddi ar Wicipedia
Llywelyn ab Ynyr
Bu farw1314 Edit this on Wikidata
Galwedigaethesgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddesgob esgobaethol Edit this on Wikidata

Clerigwr o Gymro oedd Llywelyn ab Ynyr (bu farw 1314), a fu'n Esgob Llanelwy o 1293 hyd ei farw. Fe'i gelwir hefyd yn Llywelyn de Bromfield mewn ffynonellau Lladin a Saesneg.

Fel mae'r enw 'Llywelyn de Bromfield' yn awgrymu, brodor o Frwmffild (Saesneg: Bromfield) yng ngogledd-ddwyrain Cymru (ardal sydd ym mwrdeistref sirol Wrecsam heddiw) oedd Llywelyn. Ni wyddom lawer iawn amdano. Daeth yn un o ganoniaid Esgobaeth Llanelwy ac yn 1293 olynodd Einion II (neu Anian II) fel Esgob Llanelwy.[1]

Bu farw Llywelyn yn 1314 a chafodd ei olynu gan Dafydd ap Bleddyn, yntau'n un o ganoniaid Llanelwy.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1987; arg. newydd 1991), tud. 375.
  2. The Age of Conquest: Wales 1063-1415, tud. 375.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.