Llynnau Gamallt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llynnau Gamallt
Math llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 1,530 Troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.980829°N 3.865451°W Edit this on Wikidata

Dau lyn cysylltiedig yng Ngwynedd yw Llynnau Gamallt. Fe'i lleolir yng nghymuned Ffestiniog tua 3 milltir i'r gorllewin o bentref Ffestiniog ei hun.

Saif y llynnoedd hyn yng nghysgod bryn Graig-goch, 1,530 troedfedd i fyny.[1] Llifa Afon Gamallt o ben deheuol y prif lyn i lifo i Afon Teigl sy'n un o lednentydd Afon Dwyryd.[2]

Llynnau Gamallt

Mae rhan o'r llynnoedd a'r tir i'r gorllewin ohonynt yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ceir brithyll yn y llynnoedd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.