Llyn Traffwll
Gwedd
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.262087°N 4.514399°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae Llyn Traffwll yn llyn gweddol fawr, 91 acer o arwynebedd, yng ngogledd-orllewin Ynys Môn. Saif i'r de-ddwyrain o bentref Llanfihangel yn Nhowyn. Mae nant sy'n rhedeg allan o'r llyn yn ymuno ag Afon Crigyll.
Mae y safle yn awr yn warchodfa natur, ar gyfer adar yn bennaf, yn perthyn i'r RSPB, ac yn rhan o warchodfa fwy Gwlybtiroedd y Fali. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r tir ar lannau'r llyn yn parhau mewn dwylo preifat.
Yn ôl traddodiad yn ardal Bodedern, roedd ogof Madam Wen, prif gymeriad y nofel Madam Wen (1925) gan W. D. Owen, mewn hafn ar ochr Llyn Traffwll.