Afon Crigyll
Afon Crigyll ger Rhosneigr | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.262534°N 4.45383°W |
Afon fechan yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw afon Crigyll. Mae'n tarddu fel nifer o nentydd bychain i'r gogledd o bentref Bryngwran ac yn llifo tua'r de a'r de-orllewin.
Mae'n llifo i'r dwyrain o bentref Llanfihangel-yn-Nhowyn a Llyn Traffwll, lle mae nant yn llifo allan o'r llyn yn ymuno â hi. Yna, mae'n llifo heibio ochr ogleddol Rhosneigr i gyrraedd y môr yn Nhraeth Crigyll.
Ceir corsydd ar hyd afon Crigyll sy'n ffurfio rhan o warchodfa RSPB Gwlyptiroedd y Fali.