Llyn Teifi
Gwedd
| Math | llyn, cronfa ddŵr |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.29248°N 3.785253°W |
| Rheolir gan | Dŵr Cymru |
![]() | |
Llyn bychan yng ngogledd Ceredigion yw Llyn Teifi. Mae'n gorwedd ym mryniau Elenydd tua 3 milltir i'r dwyrain o bentref Pontrhydfendigaid.
Mae Afon Teifi yn tarddu yma, gan lifo allan o'r llyn i gyfeiriad y de-orllewin a heibio i safle Abaty Ystrad Fflur.
Mae'r llyn yn gwasanaethu fel cronfa dŵr i'r ardal leol, gyda thair argae ar ben deheuol y llyn.
