Cronfa ddŵr
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Cronfa dŵr)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/70/Llyn_Brianne_spillway.jpg/200px-Llyn_Brianne_spillway.jpg)
Llyn neu gorff o ddŵr, naturiol neu artiffisial, a ddefnyddir fel ffynhonnell ar gyfer dŵr yfed neu i greu trydan dŵr yw cronfa ddŵr. Fel rheol codir argae dros all-lif llyn neu lif afon i greu cronfa ddŵr.
Cronfeydd mwyaf y byd yw Llyn Folta yn Ghana, Cronfa Smallwood yng Nghanada a Cronfa Kuybyshev yn Rwsia.
Mae cored yn ddyfais dynol arall, tebyg i gronfa ddŵr, ond sy'n hytrach na chronni'r dŵr yn ceisio ei ystumio a'i arafu er mwyn pwrpasau gwahanol.