Cronfa Kuybyshev
Gwedd
| Math | cronfa ddŵr |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 6,450 km² |
| Uwch y môr | 53 metr |
| Cyfesurynnau | 53.45°N 49.1667°E |
| Hyd | 500 cilometr |
![]() | |

Cronfa ddŵr yn Rwsia yw Cronfa Kuybyshev neu Cronfa Samara (Rwseg: Куйбышевское водохранилище, Kouïbychevskoïe vodokhranilichtche). Y gronfa yma yw'r gronfa ddŵr fwyaf yn Ewrop, a'r drydedd fwyaf yn y byd.
Saif cronfa Kuybyshev ar afon Volga, 700 km i'r dwyrain o ddinas Moscfa, yng ngweriniaethau Chuvash, Mari El a Tatarstan ac oblastau Samara ac Ulyanovsk. Mae ei arwynebedd yn 6450 km2. Y prif drefi ar ei lannau yw Kazan, Ulyanovsk a Tolyatti, gyda dinas Samara ychydig gilomedrau oddi wrtho ar hyd y Folga. Dechreuwyd adeiladu'r argae i greu'r gronfa yn 1955, a gorffennwyd ei llenwi yn 1957.
