Llyn Newydd
Gwedd
Llyn Newydd gyda Llyn Bowydd o'i flaen | |
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.00608°N 3.90482°W |
Rheolir gan | J W Greaves & Son Limited |
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Newydd. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Blaenau Ffestiniog, 1,550 troedfedd uwch lefel y môr, gyda Llyn Bowydd gerllaw iddo. Amgylchynir y llyn, sydd ag arwynebedd o 12 acer, gan chwareli llechi, yn cynnwys Chwarel Maenofferen a Chwt-y-bugail.
Crewyd y llyn fel cronfa ddŵr i gyflenwi anghenion Chwarel Maenofferen trwy adeiladu argae yn 1860. Defnyddid y dŵr i yrru peiriannau'r charel, ac yn 1918 i gynhyrchu trydan.
Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno ag Afon Bowydd yn fuan wedyn. Mae'r afon yma yn diflannu dan domenni rwbel y chwareli am bellter cyn dod i'r golwg eto ar ochr ddeheuol Blaenau Ffestiniog. Mae'n llifo tua'r de ar hyd Cwm Bowydd i ymuno ag Afon Goedol sydd yn ei thro yn ymuno ag Afon Dwyryd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)