Chwarel Maenofferen
![]() | |
Math | chwarel ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0012°N 3.9186°W ![]() |
![]() | |
Chwarel lechi ger Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, yw Chwarel Maenofferen. Mae'n dal yn cynhyrchu llechfaen wedi ei falu.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuwyd gweithio safle Maenofferen yn fuan wedi 1800 gan weithwyr o Chwarel Diffwys gerllaw. Erbyn 1848 roedd llechi oddi yma yn cael eu cario ar Reilffordd Ffestiniog. Gelwid y chwarel gyntaf ar y safle yn chwarel David Jones.
Yn 1860 crewyd Llyn Newydd fel cronfa ddŵr i gyflenwi anghenion y chwarel trwy adeiladu argae. Defnyddid y dŵr i yrru peiriannau'r charel, ac yn 1918 i gynhyrchu trydan. Yn 1861 ffurfiwyd cwmni'r Maenofferen Slate Quarry Co. Ltd.. Cynhyrchwyd tua 400 tunnell o lechi y flwyddyn honno, ac yn 1862 cymerodd y cwmni lês ar gei ym mhorthladd Porthmadog,
Tyfodd y chwarel, gam ymestyn o dan y ddaear ac i lawr y llechwedd i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog. Erbyn 1897 roedd yn cyflogi 429 o weithwyr, tua hanner y rhain dan ddaear. Nid oedd gan y chwarel yma gysylltiad uniongyrchol a Rheilffordd Ffestiniog; defnyddid Tramffordd Rhiwbach i'w cludo at y rheilffordd.
Yn 1908 cymerodd y cwmni lês ar gei ym Minffordd, lle roedd offer i drosgwyddo llechi o'r trên bach i'r trên mawr. Prynodd y cwmni Chwarel Rhiwbach yn 1928. Pan ddaeth Rheilffordd Ffestiniog i ben yn 1946, cymerodd Maenofferen lês ar ran o'r hen drac i gludo llechi at reilffordd yr LMS. O 1962 ymlaen, defnyddid lorïau i gludo'r llechi.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1b/Mill_level.jpg/250px-Mill_level.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/Untopping_operations.jpg/250px-Untopping_operations.jpg)
Y chwarel heddiw
[golygu | golygu cod]Prynwyd y chwarel gan berchenofion Chwarel Llechwedd yn 1975. Daeth y gwaith tanddaearol i ben ym mis Tachwedd 1999; hwn oedd y gwaith tanddaearol olaf yng ngogledd Cymru i'w weithio ar raddfa fawr. Erbyn hyn mae'r chwarel yn cael ei gweithio o'r wyneb, gan weithio'r llechfaen o'r pileri rhwng y siamberi.