Llyn Mair
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Math | cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9517°N 4.0075°W ![]() |
Rheolir gan | Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ![]() |
![]() | |
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Mair. Saif fymryn uwchben Plas Tan y Bwlch, ac wrth ochr y ffordd B4410 sy'n arwain trwy Rhyd i Lanfrothen. Mae ganddo arwynebedd o 14 acer, ac mae'r afon fechan sy'n gadael y llyn y llifo i mewn i Afon Dwyryd.
Nid yw'r llyn yn un naturiol; fe'i crewyd gan W.E. Oakeley o Blas Tanybwlch ar gyfer cyflenwad dŵr ac fel anrheg i'w ferch, Mair, ar ei phen blwydd yn 21 oed. O'i gwmpas ceir coedwigoedd derw naturiol, ac mae nifer o lwybrau yn arwain oddi wrth y llyn trwy'r coedydd hyn. Mae un yn arwain at orsaf Tan-y-Bwlch ar Reilffordd Ffestiniog.
Daw ffrwd i mewn i'r llyn o'r gogledd, sy'n tarddu yn Llyn y Garnedd Uchaf ac yn llifo trwy Llyn y Garnedd ac wedyn i Lyn Mair.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)