Llyn y Garnedd

Oddi ar Wicipedia
Llyn y Garnedd
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr723 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawLlyn y Garnedd Uchaf, Llyn Mair Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.95839°N 4.001279°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn bychan yn Eryri, Gwynedd, yw Llyn y Garnedd. Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r gogledd o Faentwrog ger Ffestiniog.[1]

Saif y llyn 723 troedfedd i fyny[2] ar ymyl coedwig tua 1.5 milltir i'r de o gopa Moelwyn Bach.

Llyn y Garnedd

Ychydig uwchlaw ceir Llyn y Garnedd Uchaf, sy'n gorwedd mewn cors. Mae ffrwd yn llifo o'r llyn i lawr i Lyn y Garnedd; oddi yno mae'r ffrwd yn llifo i Lyn Mair ac wedyn i Afon Dwyryd ger Maentwrog.[1]

Ceir brithyll yn y llyn.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  2. 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).