Llyn y Garnedd Uchaf
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 800 troedfedd ![]() |
Gerllaw | Afon Dwyryd, Llyn Mair, Llyn y Garnedd ![]() |
Cyfesurynnau | 52.961275°N 3.998137°W ![]() |
![]() | |
Llyn bychan yn Eryri, Gwynedd, yw Llyn y Garnedd Uchaf. Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r gogledd o Faentwrog ger Ffestiniog.[1]
Saif y llyn 800 troedfedd i fyny[2] mewn cwm filltir i'r de o gopa Moelwyn Bach.
Codwyd argae i greu'r llyn ar gyfer gwaith Chwarel Oakeley ond rwan bod yr argae honno yn adfeiliedig ychydig iawn o ddŵr sydd ar ôl yn y llyn, sy'n gorwedd mewn cors.
Mae ffrwd yn llifo o'r llyn i lawr i Lyn y Garnedd; oddi yno mae'r ffrwd yn llifo i Lyn Mair ac wedyn i Afon Dwyryd ger Maentwrog.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
- ↑ Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).