Llyn Great Bear
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Tsá Tué Biosphere Reserve |
| Sir | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 31,153 km² |
| Uwch y môr | 155 metr |
| Cyfesurynnau | 66°N 121°W |
| Dalgylch | 114,717 cilometr sgwâr |
| Hyd | 400 cilometr |
![]() | |
Llyn yng ngogledd-orllewin Canada yw Llyn Great Bear (Saesneg: Great Bear Lake, (Slaveg: Sahtú, Ffrangeg: Grand lac de l'Ours. Saif yn Nhiriogaethau'r Gogledd-orllewin. Ef yw'r llyn mwyaf sy'n gyfangwbl o fewn Canada; mae Llyn Superior a Llyn Huron yn fwy, ond mae'r rhain ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau.
Mae gan y llyn arwynebedd o 31,153 km² (12,028 mi²) ac mae'n cynnwys 2,236 km³ (536 mi³) o ddŵr. Yn y mae'n dyfnaf, mae'n 446 m (1,463 troedfedd) o ddyfnder. Llifa Afon Great Bear (Sahtúdé) o'r llyn i Afon Mackenzie. Yr unig dref neu bentref ar lan y llyn yw Deline ar ochr dde-orllewinol y llyn.

