Llyn Du (Meifod)

Oddi ar Wicipedia
Llyn Du
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.706001°N 3.225693°W Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y llyn ger Meifod yw hon. Gweler hefyd Llyn Du (gwahaniaethu).
Llyn Du

Llyn yng ngogledd Powys yw Llyn Du. Fe'i lleolir 1.5 milltir i'r dwyrain o bentref Meifod yn ardal Maldwyn, tua 5 filltir i'r gogledd-orllewin o'r Trallwng.

Saif y llyn bychan hwn 647 troedfedd[1] i fyny ym mryniau isel Broniarth i'r gogledd o'r Trallwng, rhwng Meifod i'r gorllewin a Pentre'r Beirdd i'r gogledd-ddwyrain.

Ceir sawl math o bysgod yn y llyn, yn cynnwys penhwyaid, draenogiaid, gwrachenod, gwrachenod duon a charpiau, ond dim brithyll.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).