Llyn Coch-hwyad

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Glan ogleddol Llyn Coch-hwyad

Llyn bychan yng ngogledd Powys yw Llyn Coch-hwyad. Saif ym mryniau Maldwyn tua hanner ffordd rhwng Aberangell, i'r gorllewin, a Llangadfan i'r dwyrain. Uchder: tua 450 meter uwch lefel y môr.

Amgylchynnir y llyn gan gorsdir gwlyb a fforestydd y Comisiwn Coedwigaeth. Llifa ffrwd o'r llyn ar ei lan i gyfeiriad y gogledd-orllewin i lifo i Afon Dugoed, un o lednentydd Afon Dyfi.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Map OS Landranger 125
CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.