Llyn Cerrigllwydion Isaf
Jump to navigation
Jump to search
Llyn yng ngorllewin canolbarth Powys yw Llyn Cerrigllwydion Isaf. Fe'i lleolir ger y ffin rhwng Ceredigion a Phowys yn uchel yn mryniau Elenydd tua 8 milltir i'r de o Eisteddfa Gurig.
Tua hanner milltir i'r de ceir Llyn Cerrigllwydion Uchaf. Mae ffrwd yn llifo o'r llyn hwnnw i Lyn Cerrigllwydion Isaf. Llifa Nant Hirin allan o Lyn Cerrigllwydion Isaf i gyfeiriad y dwyrain i lifo am tua 3 milltir cyn ymuno ag Afon Elan ym Mhowys.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Map OS Landranger 135 1:50,000