Llygredd plastig morol

Oddi ar Wicipedia
Llygredd plastig morol
llygredd plastig morol yn Portsmouth, Lloegr
Mathllygredd amgylcheddol, llygredd morol Edit this on Wikidata

Mae llygredd plastig morol (neu lygredd plastig yn y cefnfor) yn fath o lygredd morol gan blastig a roddwyd yno gan ddyn. Gall y llygredd hwn amrywio o ran maint o ddeunydd mawr fel rhwydi, poteli a bagiau, i lawr i ficroblastigau a ffurfiwyd o ddarnio deunyddiau plastig. Mae malurion morol yn bennaf yn sbwriel dynol sy'n cael ei waredu, ei daflu i'r cefnforoedd ac mae wyth deg y cant o falurion morol yn blastig.[1][2]

Mae microblastigau a nanoplastigau'n deillio o chwalu neu ffotoddiraddio gwastraff plastig mewn dyfroedd yr yr wyneb, afonydd neu gefnforoedd. Yn ddiweddar, mae gwyddonwyr wedi darganfod nanoplastigion mewn eira trwm, yn fwy penodol amcangyrifir fod tua 3000 tunnell yn gorchuddio'r Swistir bob blwyddyn.[3] Amcangyfrifir bod stoc o 86 miliwn o dunelli o falurion morol plastig yng nghefnforoedd y byd (diwedd 2013), gan dybio bod 1.4% o'r plastigau byd-eang a gynhyrchwyd rhwng 1950 a 2013 wedi mynd i mewn i'r môr ac wedi aros yno.[4] Amcangyfrifir bod 19-23 miliwn tunnell o blastig yn cael eu taflu a'u gollwng i ecosystemau dyfrol bob blwyddyn.[5] Amcangyfrifodd Cynhadledd Cefnfor y Cenhedloedd Unedig 2017 y gallai'r cefnforoedd gynnwys mwy o bwysau mewn plastigion na physgod erbyn y flwyddyn 2050.[6]

Yn Hydref 2019, datgelodd ymchwil fod y rhan fwyaf o lygredd plastig morol yn dod o longau cargo Tsieineaidd,[7] dywedodd llefarydd ar ran Ocean Cleanup: “Mae pawb yn siarad am achub y cefnforoedd trwy roi’r gorau i ddefnyddio bagiau plastig, gwellt a phecynnu untro. Mae hynny'n bwysig, ond pan rydyn ni'n mynd allan ar y cefnfor, nid dyna rydyn ni'n dod o hyd iddo o reidrwydd." [8]

Daw bron i 20% o'r malurion plastig sy'n llygru dŵr y cefnfor, sy'n cyfateb i 5.6 miliwn tunnell, o ffynonellau sy'n seiliedig ar y cefnfor. Mae MARPOL, cytundeb rhyngwladol, "yn gosod gwaharddiad llwyr ar waredu plastigau ar y môr".[9][10] Mae llongau masnach yn gollwng cargo, carthffosiaeth, offer meddygol a ddefnyddir, a mathau eraill o wastraff sy'n cynnwys plastig i'r cefnfor. Yn yr Unol Daleithiau, mae Deddf Ymchwil a Rheoli Llygredd Plastig Morol 1987 yn gwahardd gollwng plastigau yn y môr, gan gynnwys llongau llyngesol.[11][12] Y ffynhonnell fwyaf o lygredd plastig yn y cefnfor yw offer pysgota wedi'i daflu (gan gynnwys trapiau a rhwydi), yr amcangyfrifir ei fod hyd at 90% o falurion plastig mewn rhai ardaloedd.[13]Hammer, J; Kraak, MH; Parsons, JR (2012). "Plastics in the marine environment: the dark side of a modern gift". Reviews of Environmental Contamination and Toxicology 220: 1–44. doi:10.1007/978-1-4614-3414-6_1. ISBN 978-1461434139. PMID 22610295. https://semanticscholar.org/paper/43553427495a7cc4d727f75bebc6b67b4e710393.</ref>

Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd gan Science, amcangyfrifodd Jambeck et al (2015) mai'r 10 allyrwyr mwyaf o lygredd plastig cefnforol ledled y byd yw, o'r mwyaf i'r lleiaf: Tsieina, Indonesia, Philipinau, Fietnam, Sri Lanca, Gwlad Thai, yr Aifft, Malaysia, Nigeria, a Bangladesh.[14]

Microblastigau[golygu | golygu cod]

Microblastigau yn y cefnfor arwyneb 1950–2000 a rhagamcanion y tu hwnt, mewn miliwn o dunelli metrig. [Graffeg Saesneg]
Sampl o ficroplastig a gasglwyd gan Brifysgol Talaith Oregon

Pryder cynyddol ynghylch llygredd plastig yn yr ecosystem forol yw'r defnydd o ficroblastigau. Gleiniau o blastig sy'n llai na 5 milimetr o led yw microblastigau,[15] ac maent i'w cael yn gyffredin mewn sebon dwylo, glanhawyr wynebau, a chemegolion tebyg. Pan ddefnyddir y cynhyrchion hyn, mae'r microplastigion yn mynd trwy'r system hidlo dŵr ac i'r cefnfor, ond oherwydd eu maint bach maent yn debygol o ddianc rhag cael eu dal gan yr hidlyddion mewn canolfannau gwastraff.[16] Mae'r gleiniau hyn yn niweidiol i'r organebau yn y cefnfor, oherwydd gellir llyncu'r plastig yn hawdd a mynd yn sâl. Mae'r microplastigion yn gymaint o bryder oherwydd eu bod yn anodd eu glanhau oherwydd eu maint, felly gall pobl geisio osgoi defnyddio'r plastigau niweidiol hyn trwy brynu cynhyrchion sy'n defnyddio cynnyrch sy'n ddiogel i'r amgylcheddol.

Gall microblastigau grynhoi yng nghegau, tagelli a pherfeddion anifeiliaid morol a gallant ymyrryd â'u harferion bwydo, gan arwain at farwolaeth araf.

Gall biogronni microblastigau gael effaith enfawr ar y we fwyd, gan newid ecosystemau a chyfrannu at golli bioamrywiaeth.

Ymglymu[golygu | golygu cod]

Crwban môr yn sownd mewn rhwyd ysbryd

Mae ymglymu mewn malurion plastig wedi lladd llawer o organebau morol, fel pysgod, morloi, crwbanod ac adar. Mae'r anifeiliaid hyn yn cael eu dal yn y malurion (rhwydi ayb) ac yn y pen draw yn mygu neu'n boddi. Oherwydd na allant ddatod eu hunain, maent hefyd yn marw o newyn neu oherwydd eu hanallu i ddianc rhag ysglyfaethwyr.[13] Mae cael ymglym hefyd yn aml yn arwain at rwygiadau a thoriadau difrifol yn y cnawd. Amcangyfrifwyd bod o leiaf 267 o wahanol rywogaethau dioddef yn ddyddiol, yn sgil ymglymu, maglu ac amlyncu malurion plastig.[17][18] Amcangyfrifir hefyd bod dros 400,000 o famaliaid morol yn marw bob blwyddyn oherwydd hyn.[19] Yn aml, mae organebau morol yn cael eu dal mewn offer pysgota sy'n cael ei daflu neu eu colli o longau, ee rhwydi, rhaffau awnaed o ddeunyddiau synthetig fel neilon, gan wneud offer pysgota yn fwy gwydn ac yn arfnofio ar yr yr wyneb.[20]

Effeithiau ar bobl[golygu | golygu cod]

Gall nanoplastigau dreiddio i feinwe'r coluddyn mewn creaduriaid dyfrol[21] a gallant ddod i'r gadwyn fwyd ddynol trwy anadlu eu bwyta, yn enwedig trwy bysgod cregyn a chramenogion.[22] Mae amlyncu plastig wedi bod yn gysylltiedig ag amrywiaeth o effeithiau atgenhedlu, carsinogenig a mwtagenig.[23] Y cyfansoddyn synthetig organig mwyaf adnabyddus a ddefnyddir mewn llawer o blastigau yw bisphenol A (BPA).[24] Mae wedi'i gysylltu â chlefyd awtoimiwn a chyfryngau amhariad endocrin, gan arwain at lai o ffrwythlondeb ymhlith pobl a chanser y fron.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Weisman, Alan (2007). The World Without Us. St. Martin's Thomas Dunne Books. ISBN 978-0312347291.
  2. "Marine plastic pollution". IUCN (yn Saesneg). 2018-05-25. Cyrchwyd 2022-02-01.
  3. H, Eskarina; ley (2022-01-26). "Nanoplastics in snow: The extensive impact of plastic pollution". Open Access Government (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-01.
  4. Jang, Y. C., Lee, J., Hong, S., Choi, H. W., Shim, W. J., & Hong, S. Y. 2015. Estimating the global inflow and stock of plastic marine debris using material flow analysis: a preliminary approach. Journal of the Korean Society for Marine Environment and Energy, 18(4), 263–273.
  5. "Drowning in Plastics – Marine Litter and Plastic Waste Vital Graphics". UNEP – UN Environment Programme (yn Saesneg). 2021-10-21. Cyrchwyd 2022-03-21.
  6. Wright, Pam (6 June 2017). "UN Ocean Conference: Plastics Dumped In Oceans Could Outweigh Fish by 2050, Secretary-General Says". The Weather Channel. Cyrchwyd 5 May 2018.
  7. Ryan, Peter G.; Dilley, Ben J.; Ronconi, Robert A.; Connan, Maëlle (2019). "Rapid increase in Asian bottles in the South Atlantic Ocean indicates major debris inputs from ships". Proceedings of the National Academy of Sciences 116 (42): 20892–20897. Bibcode 2019PNAS..11620892R. doi:10.1073/pnas.1909816116. PMC 6800376. PMID 31570571. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6800376.
  8. "Multimedia". 27 February 2012.
  9. Muhammad Taufan (26 January 2017). "Oceans of Plastic: Fixing Indonesia's Marine Debris Pollution Laws". The Diplomat. Cyrchwyd 20 December 2018. MARPOL Annex V contains regulations on vessel-borne garbage and its disposal. It sets limit on what may be disposed at sea and imposes a complete ban on the at-sea disposal of plastics.
  10. Stephanie B. Borrelle; Chelsea M. Rochman; Max Liboiron; Alexander L. Bond; Amy Lusher; Hillary Bradshaw; and Jennifer F. Provencher (19 September 2017). "Opinion: Why we need an international agreement on marine plastic pollution". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 114 (38): 9994–9997. Bibcode 2017PNAS..114.9994B. doi:10.1073/pnas.1714450114. PMC 5617320. PMID 28928233. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5617320. "the 1973 Annex V of the International Convention for the Prevention of Pollution from Ships, as modified by the Protocol of 1978 (MARPOL), is an international agreement that addresses plastic pollution. MARPOL, which bans ships from dumping plastic at sea"
  11. Derraik, José G.B. (September 2002). "The pollution of the marine environment by plastic debris: a review". Marine Pollution Bulletin 44 (99): 842–852. doi:10.1016/S0025-326X(02)00220-5. PMID 12405208. "In the USA, for instance, the Marine Plastics Pollution Research and Control Act of 1987 not only adopted Annex V, but also extended its application to US Navy vessels"
  12. Craig S. Alig; Larry Koss; Tom Scarano; Fred Chitty (1990). "Control of Plastic Wastes Aboard Naval Ships at Sea" (PDF). National Oceanic and Atmospheric Administration. ProceedingsoftheSecondInternational Conference on Marine Debris, 2–7 April 1989, Honolulu, Hawaii. Cyrchwyd 20 December 2018. The U.S. Navy is taking a proactive approach to comply with the prohibition on the at-sea discharge of plastics mandated by the Marine Plastic Pollution Research and Control Act of 1987
  13. 13.0 13.1 Hammer, J; Kraak, MH; Parsons, JR (2012). "Plastics in the marine environment: the dark side of a modern gift". Reviews of Environmental Contamination and Toxicology 220: 1–44. doi:10.1007/978-1-4614-3414-6_1. ISBN 978-1461434139. PMID 22610295. https://semanticscholar.org/paper/43553427495a7cc4d727f75bebc6b67b4e710393.Hammer, J; Kraak, MH; Parsons, JR (2012). "Plastics in the marine environment: the dark side of a modern gift". Reviews of Environmental Contamination and Toxicology. 220: 1–44. doi:10.1007/978-1-4614-3414-6_1. ISBN 978-1461434139. PMID 22610295. S2CID 5842747.
  14. Jambeck, Jenna R.; Geyer, Roland; Wilcox, Chris; Siegler, Theodore R.; Perryman, Miriam; Andrady, Anthony; Narayan, Ramani; Law, Kara Lavender (2015). "Plastic waste inputs from land into the ocean". Science 347 (6223): 768–771. arXiv:3. Bibcode 2015Sci...347..768J. doi:10.1126/science.1260352. PMID 25678662. https://www.iswa.org/fileadmin/user_upload/Calendar_2011_03_AMERICANA/Science-2015-Jambeck-768-71__2_.pdf. Adalwyd 7 January 2019.
  15. Wiggin, K. J.; Holland, E. B. (2019-06-01). "Validation and application of cost and time effective methods for the detection of 3–500 μm sized microplastics in the urban marine and estuarine environments surrounding Long Beach, California" (yn en). Marine Pollution Bulletin 143: 152–162. doi:10.1016/j.marpolbul.2019.03.060. ISSN 0025-326X. PMID 31789151. https://www.sciencedirect.com/science/article/abs/pii/S0025326X19302450.
  16. Fendall, Lisa S.; Sewell, Mary A. (2009). "Contributing to marine pollution by washing your face: Microplastics in facial cleansers". Marine Pollution Bulletin 58 (8): 1225–1228. doi:10.1016/j.marpolbul.2009.04.025. PMID 19481226.
  17. Le Guern, Claire (March 2018). "When The Mermaids Cry: The Great Plastic Tide". Coastal Care. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 April 2018. Cyrchwyd 10 November 2018.
  18. "Plastic Debris in the World's Oceans". Greenpeace International. Cyrchwyd 5 May 2018.
  19. Daniel D. Chiras (2004). Environmental Science: Creating a Sustainable Future. Jones & Bartlett Learning. pp. 517–518. ISBN 0763735698
  20. Gregory, M. R. (14 June 2009). "Environmental implications of plastic debris in marine settings – entanglement, ingestion, smothering, hangers-on, hitch-hiking and alien invasions". Philosophical Transactions of the Royal Society B: Biological Sciences 364 (1526): 2013–2025. doi:10.1098/rstb.2008.0265. PMC 2873013. PMID 19528053. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2873013.
  21. Lehner, Roman; Weder, Christoph; Petri-Fink, Alke; Rothen-Rutishauser, Barbara (2019-01-10). "Emergence of Nanoplastic in the Environment and Possible Impact on Human Health". Environmental Science & Technology 53 (4): 1748–1765. Bibcode 2019EnST...53.1748L. doi:10.1021/acs.est.8b05512. ISSN 0013-936X. PMID 30629421. https://doi.org/10.1021/acs.est.8b05512.
  22. Waring, R.H.; Harris, R.M.; Mitchell, S.C. (September 2018). "Plastic contamination of the food chain: A threat to human health?". Maturitas 115: 64–68. doi:10.1016/j.maturitas.2018.06.010. ISSN 0378-5122. PMID 30049349. https://doi.org/10.1016/j.maturitas.2018.06.010.
  23. Wright, Stephanie L.; Kelly, Frank J. (2017-09-25). "Threat to human health from environmental plastics" (yn en). BMJ 358: j4334. doi:10.1136/bmj.j4334. ISSN 0959-8138. PMID 28947623. https://www.bmj.com/content/358/bmj.j4334.
  24. Huang, Michelle N. (2017-02-01). "Ecologies of Entanglement in the Great Pacific Garbage Patch" (yn en). Journal of Asian American Studies 20 (1): 95–117. doi:10.1353/jaas.2017.0006. ISSN 1096-8598. https://muse.jhu.edu/article/647481.