Llyfr Glas Nebo
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Manon Steffan Ros |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Hydref 2019 |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781784616496 |
Nofel gan Manon Steffan Ros yw Llyfr Glas Nebo. Cyhoeddwyd y llyfr gan Y Lolfa yn 2018 i adolygiadau positif.[1]
Mae'r stori'n digwydd mewn byd ôl-apocalyptaidd yn y wlad ger Nebo, pentref yn Arfon, Gwynedd. Mae'r bachgen Siôn, ei fam Rowenna, a'i chwaer fach, Dwynwen, yn ceisio goroesi ar ôl Y Terfyn – yr hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion yr ardal a thu hwnt.[2] Dros gyfnod o flynyddoedd mae Siôn a Rowenna yn cofnodi eu hanes mewn llyfr nodiadau glas y daethon nhw o hyd iddo mewn tŷ yn Nebo.
Cafodd y llyfr ei addasu yn sioe llwyfan gan Frân Wen yn 2020.[3]
Cyflwyniad
[golygu | golygu cod]Cawn hanes mam a mab yn ceisio goroesi ar ôl y Terfyn – trychineb a gafodd effaith ddychrynllyd ar yr ardal a thu hwnt.
Teitl y nofel
[golygu | golygu cod]Daw teitl y nofel o’r enw a roddodd Siôn ar ddyddiaduron ei fam ac yntau sef Llyfr Glas Nebo. Seliwyd yr enw ar y llyfrau hanesyddol Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest, gan gyfeirio at bentref Nebo, ger Llanllyfni.
Crynodeb o’r nofel
[golygu | golygu cod]Cyfres o ddyddiaduron Siôn a’i fam, Rowenna yw Llyfr Glas Nebo. Ysgrifenna Rowenna am fywyd cyn y Terfyn tra ysgrifenna Siôn am ei fywyd wedi’r Terfyn. Syniad Rowenna yw cadw dyddiadur gan nad oes ganddi ragor i ddysgu i’w mab. Cyn y terfyn, fe weithiai Rowenna mewn siop trin gwallt gyda Gaynor yn y “Siswrn Arian”. Roedd hi’n byw yn un o fflatiau’r cyngor tan iddi rentu hen dŷ anial Nancy Parry. Daw ei mab i’r tŷ i gasglu’r arian rent, ac er ei fod yn briod, datblygir perthynas rhamantus rhwng y ddau. Nid yw’n cadw at ei addewidion pan feichioga Rowenna ac mae’n dewis peidio â chroesi’r trothwy i weld Siôn ar ôl iddo gael ei eni. Yn 2018, pan oedd Siôn yn chwech oedd fe ddigwyddodd y trychineb. Ni chawn wybod beth oedd achos y Terfyn ond awgrymir bod ymosodiad terfysgol wedi digwydd ar yr orsaf bŵer yn Ynys Môn a bod y wlad mewn rhyfel niwclear. Ar ôl clywed am ffrwydradau America ar y radio, mae’r ardal mewn panig. Llenwa Rowenna’r garej gyda bwyd a nwyddau. Yna, fe ddiffodda’r trydan. Pythefnos ar ôl hynny, mentra Rowenna i’r dref i weld beth sy’n digwydd, gan adael Siôn gyda’r cymdogion, Mr a Mrs Thorpe. Mae’r dref yn wag ac ar chwâl wedi i bobl dorri mewn i’r siopau i ddwyn pres a bwyd cyn ffoi at deulu a ffrindiau. Gwêl Rowenna hen ffrind ysgol iddi, Dylan, sy’n ei chynghori i ddychwelyd i’w chartref yng nghanol nunlle a chloi’r drws. Ar ei ffordd adref, llenwa Rowenna ei char â llyfrau Cymraeg o’r llyfrgell er nad yw’n hoff o ddarllen o gwbl. Pythefnos yn ddiweddarach, gwelant gwmwl tywyll uwchben Ynys Môn a sŵn taran. Cilia’r gwlithod a’r adar a chilia Rowenna a Siôn i’r tŷ gan gloi bob drws a ffenestr. Ni all Mr a Mrs Thorpe wynebu ansicrwydd y dyfodol ac felly maen nhw’n penderfynu gyrru tuag at Wylfa. Penderfyniad a fydd yn dod â’u bywyd a’u hofnau i ben. Am fisoedd ar ôl y cwmwl gwenwynig, mae Rowenna a Siôn yn gaeth i’w gwlâu gyda salwch difrifol ac oni bai bod ganddynt ddŵr o’r afon ni fydden nhw wedi goroesi. Wedi iddynt wella, dechreuant ail adeiladu eu bywydau gan fyw’n hunangynhaliol. Maen nhw’n tyfu llysiau, plannu coed, a dal anifeiliaid, megis llygod, cwningod a gwiwerod, mewn trap i wneud cawl. Un diwrnod fe â Rowenna i’r brif ffordd i ddwyn arwydd er mwyn gwneud caead i focs madarch. Dychryna pan wêl ddyn yn beicio ar y ffordd sy’n laswellt i gyd. Mae rhywun arall yn dal i fyw yn yr ardal. Gadawa anrhegion i Siôn a hithau ar garreg y drws a daw’r ddau’n gariadon. Er hyn, nid yw’n datgelu bodolaeth Gwion wrth Siôn. Fe ddiflanna Gwion dros nos, a ni ŵyr Rowenna os yw’n fyw neu’n farw. Ni ŵyr chwaith os yw’n gwybod ei bod yn disgwyl ei fabi- Dwynwen. Yn dilyn cyngor gan Gwion, mae Rowenna yn dechrau torri i mewn i dai Nebo er mwyn casglu rhagor o nwyddau er mwyn goroesi. Nid yw’n gadael i Siôn fentro ei hun i’r tai gan fod cymaint o gyrff meirwon ynddynt ar ôl y Terfyn.
Mae gan Siôn feddwl y byd o Dwynwen. Fe garia hi mewn sling o gwmpas yr ardd a’r pentref. Rhanna hefyd ei gyfrinach â hi am Gwdig, y sgwarnog gyda dau wyneb. Daw bwlch anferth rhwng Siôn a Rowenna wedi marwolaeth Dwynwen a phrydera Rowenna bod Siôn am ei gadael.
Clo’r nofel yn llawn ansicrwydd wedi iddynt glywed sŵn hofrennydd a cheir heddlu a gwelant oleuadau ym Môn. Mae Siôn yn gyffrous bod rhywun am eu hachub tra teimla Rowenna bod Terfyn arall ar ei ffordd. Nid yw eisiau dychwelyd i’w hen fyd diflas a phrysur.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]Rowenna
[golygu | golygu cod]Cyn y terfyn, fe weithiai Rowenna mewn siop trin gwallt. Awgrymir ei bod wedi cael bywyd caled gan ei bod wedi bod yn byw mewn fflat cyngor ac nid oes ganddi rieni. Mae ei bywyd hi’n arwynebol – tynna luniau ffug ar ei ffôn symudol er mwyn eu rhannu ar wefannau cymdeithasol a thro at win a smôc i ymlacio. Ond ar ôl clywed am ffrwydradau America, daw newid yn ei chymeriad. Yn ymarferol, llenwa’r garej gyda bwyd a nwyddau, ac argraffa wybodaeth oddi ar y we am sut i fyw’n hunangynhaliol. Wedi’r Terfyn, mae hi’n cario dŵr o’r afon i sicrhau bod Siôn a hithau’n goroesi salwch y cwmwl gwenwynig, fe ddysga Siôn sut i blannu llysiau a choed, a dalia anifeiliaid gwyllt mewn trap i wneud cawl â hwy. ar ben hynny, mae hi’n dwyn llyfrau o’r llyfrgell er mwyn addysgu Siôn gan nad yw’r ysgol yn bodoli bellach. Mae hi’n amddiffynnol iawn o’i phlant. Mae hi’n lladd Gwdig rhag ofn i’w phlant weld y fath erchylltra ac nid yw’n gadael i Siôn dorri mewn i dai Nebo oni bai ei bod hi’n mynd yno o’i flaen i sicrhau nad oes cyrff yn y tai. Caiff Rowenna sawl sgwrs gyda’i mab ar ben y lean-to sy’n dangos agosatrwydd anghyffredin rhwng mam a’i phlentyn. Yn aml, mae Rowenna yn rhannu ei hatgofion am fywyd cyn y Terfyn gyda’i mab. Er hyn, mae gan Rowenna ei chyfrinachau. Nid yw’n dweud wrth Siôn am fodolaeth Gwion ac mae yntau’n rhy ifanc i gwestiynu sut y mae hi’n feichiog. Wedi marwolaeth Dwynwen, mae Rowenna yn torri ei chalon ac fe achosa hyn densiwn rhwng Siôn a hithau. Pan ddaw arwyddion bod yr hen fyd yn dychwelyd, digalonna Rowenna. Er bod y Terfyn wedi’i heneiddio, teimla gryfder a phwrpas – nid yw eisiau dychwelyd i ddiflastod y byd modern.
Siôn
[golygu | golygu cod]Cyn y Terfyn, bachgen swil ac eiddil yw Siôn. Wedi’r trychineb, mae’n gorfod aeddfedu’n sydyn a helpu ei fam i fyw’n hunangynhaliol. Mae’n fachgen deallus ac mae wrth ei fodd yn darllen nofelau a’r Beibl. Gwelwn ochr sensitif iddo wrth iddo boeni am deimladau’r llysiau yr oedd wedi’u tyfu ac wrth iddo ofalu am Gwdig y sgwarnog. Ar ben hynny, mae o’n ffeind iawn gyda’i chwaer Dwynwen ac mae’n gefn mawr i’w fam wrth iddi roi genedigaeth iddi. Mae Siôn yn mwynhau coginio yn ogystal ag adeiladu. Atgyweiria’r tŷ pan fo’r tywydd yn achosi problemau ac mae’n adeiladu tŷ gwydr er mwyn tyfu rhagor o fwyd. Ar ôl marwolaeth Dwynwen, teimla gasineb am y tro cyntaf tuag at ei fam wedi i’r ddau anghytuno am beth i ysgrifennu ar ei charreg fedd. Er ei chwilfrydedd pan glywa sŵn yr hofrennydd a’r ceir heddlu, y mae o’n addo aros gyda’i fam pan ddychwela’r byd modern.
Dwynwen
[golygu | golygu cod]Caiff Dwynwen Greta ei geni ar ôl y Terfyn. Gwion yw ei thad, dyn a wêl Rowenna wrth ddwyn arwydd ar y brif ffordd i wneud caead bocs madarch. Penderfyna Rowenna gadw bodolaeth Gwion yn gyfrinach oddi wrth Siôn. Fe wnaeth Siôn helpu’i fam gyda genedigaeth ei chwaer, ac mae ganddo feddwl y byd ohoni. Mae o’n darllen iddi, yn ei chario ar ei gefn wrth fynd am dro ac yn rhannu ei gyfrinach â hi am Gwdig. Ymddangosa Dwynwen yn famol wrth iddi fwytho’r sgwarnog bach. Dirywia iechyd Dwynwen. Mae hi’n wan ac mae ganddi beswch. Yn ddyflwydd oed, mae hi’n marw a chaiff ei chladdu dan goeden afal yn yr ardd. Wedi marwolaeth Dwynwen, fe anghytuna Rowenna a Siôn am beth i ysgrifennu ar ei charreg fedd. Mae Siôn eisiau dyfyniad crefyddol ond mae Rowenna wedi colli ffydd yn Nuw ar ôl colli ei merch fach.
Mr a Mrs Thorpe
[golygu | golygu cod]Prin gof sydd gan Siôn o’u cymdogion Mr a Mrs Thorpe (David a Susan). Saeson ydynt ac mae ganddynt ddau o feibion sy’n byw yn Llundain. Wedi’r trydan ddiffodd, tyfa berthynas Rowenna gyda’i chymdogion wrth iddynt warchod Siôn er mwyn iddi fynd i’r dref. Penderfyna’r ddau yrru tuag at Wylfa yn lle brwydro byw. Gadawant ŵn i Rowenna i amddiffyn ei hun. Nid yw Rowenna yn gadael i Siôn ddwyn nwyddau o’r tŷ, Sunningdale, ar ôl iddynt adael.
Gaynor
[golygu | golygu cod]Gaynor yw ffrind pennaf Rowenna ac mae hi’n ffigwr mamol yn ei bywyd. Gweithiau’r ddwy yn y siop trin gwallt “Y Siswrn Arian”. Mae Rowenna yn ffeind iawn efo Rowenna - cuddia greision a siocled i Siôn o dan y sinc a hi sy’n perswadio mab Nancy Parry i rentu’r tŷ yn Nebo i Rowenna. Oherwydd ei charedigrwydd tuag atynt, mae Siôn yn tybed a yw Gaynor yn nain iddo. Wrth iddynt glywed ar y radio am y ffrwydradau yn America, erfynia Rowenna arni i ddod i fyw at Siôn a hithau yn Nebo. Gwrthoda Gaynor ac ni wyddom os yw wedi goroesi neu beidio.
Gwion
[golygu | golygu cod]Caiff Rowenna fraw wrth weld Gwion yn beicio tuag ati ar y brif ffordd. Roedd hi wedi cymryd yn ganiataol nad oedd neb ar ôl yn yr ardal. Er bod arni ofn ar y dechrau, teimla ryddhad cael siarad ag oedolyn arall. Cyflwyna Rowenna ei hun fel Greta a dyweda Gwion fod ganddo yntau deulu cyn y Terfyn. Symuda Gwion o dŷ i dŷ gan ddwyn bwyd a dillad. Perswadia Rowenna i dorri mewn i dai Nebo ond rhybuddia hefyd bod cyrff mewn ambell i dŷ ar ôl y cwmwl gwenwynig. Rho Gwion far o siocled tywyll iddi i’w roi i Siôn a daw’r ddau’n ffrindiau. Fe adawa Gwion anrhegion ar riniog eu drws yn rheolaidd ac mae Rowenna yn syrthio mewn cariad ag ef. Cara’r ddau yn y twnnel tyfu yn ogystal â thŷ Mr a Mrs Thorpe. Syrthia Rowenna yn feichiog ond mae Gwion yn diflannu. Daw i’r penderfyniad ei fod wedi marw gan nad yw eisiau wynebu ei fod wedi troi ei gefn arni.
Mab Nancy Parry
[golygu | golygu cod]Nid ydym yn gwybod beth yw enw tad Siôn dim ond ei fod yn fab i Nancy Parry. Roedd Nancy yn un o gwsmeriaid rheolaidd “Y Siswrn Arian”, ac mae ei mab mewn penbleth beth i wneud â’i thŷ yn Nebo ar ôl iddi farw. Diolch i Gaynor, cytunwyd bod Rowenna yn rhentu’r tŷ. Datblyga berthynas Rowenna â mab Nancy pan ddaw yno i gasglu arian rent. Pan syrthia Rowenna yn feichiog, mae o’n addo gadael ei wraig a’i blant – ond nid yw’n cadw at ei air. Wedi iddi eni Siôn, nid yw’n camu dros y trothwy i weld ei fab. Dywed Rowenna bod Siôn wedi etifeddu dannedd cam ei dad.
Addasiad llwyfan o'r nofel
[golygu | golygu cod]Addaswyd y nofel yn ddrama lwyfan gan Manon Steffan Ros ar y cyd ag Elgan Rhys, un o gyfarwyddwyr cwmni’r Frân Wên. Elin Steele oedd cynllunydd y set a’r gwisgoedd a Robin Edwards (R.Seiliog) oedd y cyfansoddwr. Mewn partneriaeth â Galeri, a gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bu’r cynhyrchiad yn teithio theatrau ar draws Cymru yng Ngwanwyn 2020. Dechreuodd y daith yn Galeri, Caernarfon ar 31 Ionawr gan ymweld â Phwllheli, Caerdydd, Aberhonddu, Aberystwyth, Rhosllannerchrugog, Gartholwg, Caerfyrddin, Pontardawe a Dyffryn Aeron. Daeth y daith i ben yn Pontio, Bangor ar y 6ed o Fawrth. Tara Bethan oed yn actio Rowenna ac Eben James oedd yn actio Siôn. Yr actorion eraill oedd Llŷr Edwards, Leah Gaffey a Cêt Haf. Defnyddiwyd pypedau i bortreadu Dwynwen a Gwdig, y sgwarnog.
Cyfieithiadau
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd cyfieithiadau i'r Bwyleg gan Marta Listewnik, dan y teitl Niebieska księga z Nebo (Medi 2020)[4], i'r Sbaeneg (El libro azul de Nebo),[5], ac i'r Gataleneg (El llibre blau de Nebo).[6] Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg gan yr awdur ei hun yn 2022.[7][8]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]- Enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018
- Rhestr Fer Gwobr Tir na n-Og 2019
- Llyfr y Flwyddyn 2019
- Medal Carnegie 2023 (y tro cyntaf y mae cyfieithiad wedi ennill y wobr hon)[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- ↑ "Llyfr Glas Nebo". Y Lolfa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-30. Cyrchwyd 29 Ionawr 2020.
- ↑ "Llyfr Glas Nebo" Archifwyd 2020-01-29 yn y Peiriant Wayback; Cwmni'r Frân Wen; adalwyd 29 Ionawr 2020
- ↑ "Niebieska Księga z Nebo". Wydawnictwo Pauza (yn Pwyleg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-11. Cyrchwyd 2020-11-04.
- ↑ "Manon Steffan Ros: "Que nuestros hijos no nos necesiten es una maravillosa tragedia"" (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2021-12-02.
- ↑ "El llibre blau de Nebo" (yn Catalaneg). Cyrchwyd 2021-12-02.
- ↑ "Llyfr Glas Nebo - troi'r llyfr yn ddrama". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-04.
- ↑ "Children's and teens roundup – the best new picture books and novels". the Guardian (yn Saesneg). 2022-01-28. Cyrchwyd 2022-05-19.
- ↑ https://www.theguardian.com/books/2023/jun/21/carnegie-medal-childrens-books-translation-manon-steffan-ros-blue-book-of-nebo