Llyfr Bicar Woking

Oddi ar Wicipedia
Llyfr Bicar Woking
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Tudalennau963 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu3 Chwefror 1565 Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Ganolog Caerdydd Edit this on Wikidata

Llawysgrif Gymraeg o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg sy'n cynnwys detholiad mawr o waith Beirdd yr Uchelwyr yw Llyfr Bicar Woking (sic: hen ffurf ar 'Ficer' yw 'Bicar'). Fe'i ysgrifennwyd ym Mangor, Gwynedd.

Mae'n llawysgrif swmpus o 963 tudalen a gedwir yn Llyfrgell Dinas Caerdydd. Mae'n cynnwys bron i gant o gywyddau gan Dafydd ap Gwilym ac yn ffynhonnell bwysig am waith y bardd mawr hwnnw.

Ysgrifennwyd y llyfr yn llys esgobaethol Rowland Meyrick (1505 - 1566), Esgob Bangor, yn ôl cyflwyniad dyddiedig 3 Chwefror 1565, ar ddechrau'r llyfr. Ei berchennog oedd Syr Richard Gruffudd, 'bicar Woking'.