Llyfrgell Ganolog Caerdydd
| Math | llyfrgell gyhoeddus |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Caerdydd |
| Gwlad | y Deyrnas Unedig |
| Uwch y môr | 14.4 metr |
| Cyfesurynnau | 51.4779°N 3.1755°W |
| Cod post | CF10 1FL |
| Rheolir gan | Cyngor Caerdydd |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cyngor Caerdydd |
Llyfrgell Ganolog Caerdydd (hen enw: Llyfrgell Dinas Caerdydd) yw'r brif lyfrgell yng nghanol dinas Caerdydd. Dyma'r pedwerydd adeilad i gario'r enw hwn. Agorwyd yr adeilad presennol ar 14 Mawrth 2009.[1] Cafodd llyfrgell gyntaf Caerdydd ei hagor yn 1861 a galwyd hi yn Cardiff Free Library, fe'i hehangwyd maes o law i fod y Cardiff Free Library, Museum and Schools for Science and Art.
Adnoddau
[golygu | golygu cod]Mae'r llyfrgell yn gartref i gasgliad pwysig o lawysgrifau Cymreig,a oedd yn cynnwys Llyfr Aneirin, un o drysorau pennaf llenyddiaeth Gymraeg, nes iddi fynd ar fenthyg parhaol i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ymhlith y llawysgrifau eraill ceir Llyfr Bicar Woking.
Ceir yno gasgliad mawr o tua 500,000 o lyfrau o bob math a dogfennau hanesyddol am Gymru a Chaerdydd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y Llyfrgell wreiddiol yn 1861 trwy danysgrifiad gwirfoddol, a hynny yn Heol Eglwys Fair.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ BBC (14 Mawrth 2009). Agor llyfrgell newydd yn y ddinas. Adalwyd ar 7 Mai 2012.
- ↑ "The Cardiff Story (1861)". Cyngor Caerdydd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-08. Cyrchwyd 2010-04-28.
