Llychlys cyffredin

Oddi ar Wicipedia
Llychlys cyffredin
Lejeunea cavifolia

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Porellales
Teulu: Lejeuneaceae
Genws: Lejeunea
Rhywogaeth: L. cavifolia
Enw deuenwol
Lejeunea cavifolia

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llychlys cyffredin (enw gwyddonol: Lejeunea cavifolia; enw Saesneg: Micheli's least pouncewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon yn gyffredin iawn yng Nghymru a'r Alban, a hefyd yng ngogledd a de Lloegr, ond nid yn y canolbarth, nad yn Iwerddon.

Mae'r Llychlys cyffredin yn tueddu i fod yn fwy na'r mwyafrif o'r rhywogaethau bach, cysylltiedig eraill, gyda lobiwlau llai ac is-ddail mwy na L. lamacerina a L. patens.

Tyf ar greigiau a choed mewn mannau cysgodol a llaith, yn enwedig coetir. Yn aml mae'n cripian trwy lysiau'r afu eraill.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Llychlys cyffredin gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.