Llofruddiaeth Daniel Morgan

Oddi ar Wicipedia
Llofruddiaeth Daniel Morgan
Enghraifft o'r canlynolllofruddiaeth Edit this on Wikidata
DyddiadMawrth 1987 Edit this on Wikidata
LleoliadSydenham Edit this on Wikidata

Llofruddiwyd ditectif preifat Cymreig o'r enw Daniel Morgan gyda bwyell mewn maes parcio tafarn yn Sydenham, Llundain, Lloegr, ar 10 Mawrth 1987. Er gwaethaf pump ymchwiliad gan yr heddlu, yn ogystal â chwest i'r farwolaeth, ni chafwyd hyd i'r llofrudd a does neb eto wedi ei ddwyn i gyfiawnder dros y llofruddiaeth.

Gweithiodd Daniel John Morgan (3 Tachwedd 1949 – 10 Mawrth 1987) yn dditectif preifat i Southern Investigations, cwmni a gyd-sefydlodd yn Thornton Heath, ger Croydon, ym 1984 gyda Jonathan Rees o Swydd Efrog. Ar noson 10 Mawrth 1987, cafodd Morgan a Rees ddiod gyda'i gilydd yn nhafarn y Golden Lion yn ardal Sydenham. Tua 9:40 o'r gloch, cafwyd hyd i gorff Morgan ger ei gar BMW ym maes parcio'r dafarn, gyda bwyell yn ei ben, wedi derbyn dwy ergyd o'r llafn i gefn ei ben ac un i ochr ei wyneb. Dygwyd ei oriawr Rolex o'i arddwrn a'i nodiadau o boced ei drowsus, ond ni lladratwyd ei waled nac yr arian (£1100) ym mhoced ei siaced. Ar y llawr ger ei gorff roedd allwedd ei gar a dau baced o greision Golden Wonder, ac o'r herwydd galwyd y trosedd yn "y Llofruddiaeth Golden Wonder" gan bapurau newydd tabloid Lloegr.[1]

Yn Ebrill 1987 arestiwyd chwe dyn, gan gynnwys Jonathan Rees, mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth, ond cawsant eu rhyddhau heb eu cyhuddo o'r trosedd, a dyna ddiwedd felly ar yr ymchwiliad cyntaf gan Heddlu'r Met. Cynhaliwyd trengholiad gan lys y crwner, Southwark, ac ail ymchwiliad, gan Heddlu Hampshire, ym 1988; trydydd ymchwiliad, yn gyfrinachol, gan Ddirprwy Is-Gomisiynydd Heddlu'r Met ym 1998; pedwerydd ymchwiliad gan y Met yn 2002–03; a phumed ymchwiliad, yn gyfrinachol, gan y Met yn 2006. Rhoddwyd Rees a phedwar dyn arall ar brawf yn 2009, ond methodd y treial yn 2011.[2]

Ym Mehefin 2021 cyhoeddwyd adroddiad gan banel annibynnol a ymchwiliodd i driniaeth yr achos gan yr heddlu, sydd yn cyhuddo'r Met o "ffurf ar lygredigaeth sefydliadol" am guddio neu wadu methiannau systemig sydd yn effeithio ar yr holl lu yn ogystal â methiannau swyddogion unigol yr Iard.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Ian Thomson, "The detective who knew too much", The Critic (17 Mai 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 16 Mehefin 2021.
  2. (Saesneg) Sandra Laville, "Daniel Morgan axe murder case: timeline", The Guardian (11 Mawrth 2011). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 16 Mehefin 2021.
  3. "Llofruddiaeth Daniel Morgan: cyhuddo Heddlu Llundain o “ffurf ar lygredd sefydliadol”", Golwg360 (15 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 16 Mehefin 2021.