Neidio i'r cynnwys

Lledlafariad

Oddi ar Wicipedia

Ym meysydd seineg a ffonoleg, sain sydd yn seinegol debyg i lafariad yw lledlafariad, ond sydd yn gweithredu fel cytsain (yn hytrach na bod yn gnewyllyn i sillaf). Yn y Gymraeg, lledlafariaid yw'r i a'r w yn iach a gwyn (y llafariaid a ac y yw'r ddau gnewyllyn). Cynrychiolir y ddwy ledfariad hyn ag /j/ ac /w/ yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol. Fe'u gelwir weithiau yn i-gytsain ac w-gytsain ac maent yn debyg o ran eu sain i'r llafariaid i ac ŵ yn tir a dŵr (/i: u:/).

Daw’r gwahaniaeth rhwng <w> sy’n lledlafariad ac <w> sy’n llafariad yn amlwg pan gaiff y fannod y(r) ei gosod o’u blaen. Yr arfer yw defnyddio yr o flaen llafariaid, h /h/ a’r lledlafariad i /j/, ac y o flaen cysteiniaid a’r lledlafariad w /w/.

Felly cawn: yr oen, yr ŵyn, yr Wyddfa, yr hwch, yr iâr ac yr iaith, ar y naill law, ac y ci, y gath, y wiwer, y wlad, ac y wal, ar y llaw arall.

Mewn rhai tafodieithoedd, mae tuedd ar ddechrau geiriau i’r ddeusain <wy> /ʊɨ/ neu /ʊi/ newid i /wɨ/ neu /wi/ (sef lledlafariad wedi ei dilyn gan lafariad). Mewn geiriau eraill, ar lafar gall fod sillaf gyntaf gair fel (yr) wylan yn cael ei hynganu yn debyg i’r sillaf gyntaf yn Wiliam yn hytrach nag fel sillaf gyntaf ŵyn. Gan hynny, cawn ymadroddion fel y wylan ac y Wyddfa. Er bod y rhain yn gwbl dderbyniol mewn Cymraeg llai ffurfiol, tueddir i’w hosgoi mewn Cymraeg safonol.

Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Chwiliwch am lledlafariad
yn Wiciadur.