Neidio i'r cynnwys

Gorsaf reilffordd Llandyssul

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Llandyssul
Mathcyn orsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1864 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlandysul Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0354°N 4.3174°W Edit this on Wikidata
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Map

Gorsaf reilffordd ger pentref Llandysul, Ceredigion, Cymru, oedd Gorsaf Reilffordd Llandyssul (Llandyssil gynt). Safai ar lein Dyffryn Teifi a oedd yn perthyn i Reilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi.

Lluniwyd Rheilffordd Dyffryn Teifi rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi yn wreiddiol fel rheilffordd lydan (lled llydan 7 tr 0 14 modf (2,140 mm)). Agorwyd y lein dros dro ym 1860, o dan Reilffordd De Cymru ac fe’i hagorwyd yn llawn y flwyddyn ganlynol. Roedd yn cael ei weithredu gan Reilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi rhwng Caerfyrddin a Chynwyl Elfed. Ym 1864 estynnwyd y llinell i Bencader a Llandysul .

Cafodd y lein ei drawsnewid i'r lled safonol (4 tr 8 12 modf (1,435 mm)) erbyn 1872. Fodd bynnag, roedd y cwmni'n fethdalwr. Prynwyd y lein gan y Great Western Railway a'i hymestyn i derfynfa yng Nghastellnewydd Emlyn ym 1895,[1]

Er i wasanaethau teithwyr ddod i ben ym 1952, parhaodd gwasanaethau nwyddau tan 1973 oherwydd y gwasanaethau trên llaeth i hufenfa'r Co-operative Group yng Nghastellnewydd Emlyn.

Mae'r orsaf wedi'i dinistrio wrth adeiladu ffordd osgoi. Roedd gan yr hen orsaf dŷ meistr gorsaf, corlannau gwartheg, sied nwyddau mawr, peiriant pwyso, blwch signal, ac ati.

Tŷ'r hen orsaffeistr yn edrych dros y ffordd osgoi a adeiladwyd ar gwrs yr hen reilffordd

Llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • R.V.J. Butt, The Directory of Railway Stations (Yeovil: Patrick Stephens, 1995)
  • John S. Holden Holden, The Manchester & Milford Railway (Oakwood Press, 2007)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Newcastle Emlyn railway station". disused-stations.org.uk. Cyrchwyd 28 Ionawr 2012.