Llanbedrog, Sir Benfro

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Llanbedrog

Eglwys a phlwyf yng nghymuned Castellmartin 3 milltir i'r de-orllewin o dref Penfro yn Sir Benfro ydy Llan Pedrog neu Llanbedrog (Saesneg: St Petrox), sydd wedi'i henwi ar ôl Sant Pedrog (neu Petroc neu Sant Petrocus) ac sy'n dyddio nôl i'r 13g.[1] Cyfeirnod OS: SR970 973.

Mae tŵr yr eglwys yn null traddodiadol Sir Benfro yn fain ac yn soled. Adferwyd yr eglwys yn llwyr ym 1854, o dan lygad barcud y pensaer R. Kyrke Penson, a thalwyd am y gwaith gan John Frederick, Iarll Cawdor o Gwrt Stackpole . Ychwanegwyd festri ar y pryd. Mae Richard Fenton, yn ei gyfrol An Historical Tour through Pembrokeshire (1810) yn dweud bod yr eglwys yn,"small, but very light, airy and neat." Ceir cofebau yn yr eglwys gan gynnwys un i William Lloyd, 1674, a chofeb arddull baroc i'r Arglwyddes Jane Mansell, dyddiedig 1692.

Y Sant[golygu | golygu cod]

Enwyd Eglwys Pedrog (St Petrox) ar ôl sant Pedrog (Lladin: Petrocus, Cernyweg: Petroc). Sant o'r 6g a aeth o Gymru i Iwerddon i astudio ydoedd. Wedi ymweld â Rhufain aeth ymlaen i sefydlu mynachdy yng Nghernyw ger Lannwedhenek (Padstow). Tua diwedd ei oes aeth i gell unig ar Waun Bodmin (Goen Brenn yn y Gernyweg). Yn ôl y croniclydd Seisnig canoloesol William o Gaerwrangon, bu farw ar 4 Mehefin 564.

Hen enw Bodmin oedd Petrockstow, ac mae'n debyg bod enw'r lleoliad 'Padstow' yn deillio o'r un enw. Cadwyd ei greiriau yn eglwys Bodmin tan 1177; cymerwyd nhw i Abaty St Mevennus yn Llydaw tan i'r brenin Harri II o Loegr fynnu eu dychwelyd.

Eglwysi eraill iddo[golygu | golygu cod]

Ar wahân i Lanbedrog ym Mhenfro mae eglwysi iddo yn Llanbedrog (Llŷn) ac yn Y Ferwig (Ceredigion). Ceir 17 eglwys iddo yn Nyfnaint a 6 yng Nghernyw. Yn Llydaw ceir 8 eglwys.

Y plwyf[golygu | golygu cod]

Mae'n rhan o blwyf unedig ers 1985 efo Stackpole Elidor, Bosherston a St. Twynnells.  Yn 2001 ychwanegwyd St Mary's a St Michael's Penfro ac yn 2004 daeth yn rhan o Reithoriaeth Cil-maen. Mae'r hen reithordy nawr yn ffermdy Old Rectory Farm ers i'r reithor olaf Francis Leach ymadael tua 1870.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]