Loire-Atlantique

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Liger-Iwerydd)
Loire-Atlantique
Mathdépartements Ffrainc Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Loire, Cefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
PrifddinasNaoned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,457,806 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 4 Mawrth 1790 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPhilippe Grosvalet Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPays de la Loire Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd6,809 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaVendée, Maine-et-Loire, il-ha-Gwilen, Mor-Bihan Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.3333°N 1.6667°W Edit this on Wikidata
FR-44 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
president of departmental council Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPhilippe Grosvalet Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Loire-Atlantique
Gweler hefyd Loire (gwahaniaethu).

Département o Ffrainc a grewyd yn 1790 yw Loire-Atlantique (Llydaweg: Liger-Atlantel). Ei phrifddinas yw Naoned (Ffrangeg: Nantes).

Yn hanesyddol, roedd Loire-Atlantique yn rhan o Lydaw, gyda Naoned yn brifddinas Llydaw. Gwahanwyd hi oddi wrth y gweddill o Lydaw ar 30 Mehefin 1941, gan Lywodraeth Vichy. Parhaodd hyn wedi cwymp Vichy, ac yn 1955 gwnaed Loire-Atlantique yn rhan o ranbarth (Région) Pays de la Loire. Mae'r Département gyfoes yn cyfateb bron yn union i hen fro Bro-Naoned, un o naw bro draddodiadol Llydaw.

Mae ymyrch yn parhau i ail-uno Loire-Atlantique a Llydaw, a dangosodd arolwg barn yn 2001 fod 75% o'r bobl a holwyd o blaid hynny.

Yn 1999, roedd y boblogaeth yn 1,134,266. Yn hanesyddol, siaredid Llydaweg yn y rhan orllewinol, a hefyd yn Naoned oherwydd pobl yn symud i mewn i'r ddinas o orllewin Llydaw. Mae Gallo, iaith Romawns, hefyd yn cael ei siarad.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.