Neidio i'r cynnwys

Lee Haven Jones

Oddi ar Wicipedia
Lee Haven Jones
Ganwyd10 Mehefin 1976 Edit this on Wikidata
Aberpennar Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPobol y Cwm, Casualty Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://leehavenjones.co.uk/ Edit this on Wikidata

Actor a chyfarwyddwr o Gymro yw Lee Haven Jones (ganwyd 10 Mehefin 1976).[1]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd Lee Haven Jones yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf. Fe astudiodd ym Mhrifysgol Caerwysg gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Drama ac enillodd Ysgoloriaeth Cameron Mackintosh i astudio actio yn RADA.

Fel actor, bu'n rhan o gyfresi poblogaidd S4C fel Pam Fi, Duw? a Caerdydd rhwng 2006 a 2010.[2] Bu hefyd yn portreadu'r brif ran 'Romeo' yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Romeo a Juliet yn 2004.

Cyfarwyddodd am y tro cyntaf yn 2009 ar y rhaglen ddogfen Dad a fi, a enwebwyd am y Ddogfen Gorau yng Ngŵyl Gyfryngau Celtaidd. Ers hynny mae wedi cyfarwyddo ar The Indian Doctor, Pobol y Cwm, Casualty, Wizards vs Aliens a Waterloo Road. Roedd yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd y ddrama Tir, sawl pennod o Alys a prif gyfarwyddwr ar yr ail gyfres o 35 Diwrnod.

Mae'n gyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd y cwmni cynhyrchu teledu Joio.[3]

Datblygodd y ffilm arswyd Gymraeg Gwledd gyda'r awdur Roger Williams ac fe gyfarwyddodd y ffilm a ryddhawyd yn 2021.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Companycheck. Adalwyd ar 24 Ionawr 2016.
  2.  Ps and Qs: Lee Haven Jones. walesonline.co.uk (13 Mehefin 2009). Adalwyd ar 24 Ionawr 2016.
  3.  Gwefan swyddogol Lee Haven Jones. Adalwyd ar 24 Ionawr 2016.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]