Lavinia Fontana
Gwedd
| Lavinia Fontana | |
|---|---|
| Ffugenw | Zappi, Lavinia |
| Ganwyd | c. 24 Awst 1552 Bologna |
| Bedyddiwyd | 24 Awst 1552 |
| Bu farw | 11 Awst 1614 Rhufain |
| Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
| Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, altarpiece painter, portreadydd |
| Adnabyddus am | Adoration of the Shepherds |
| Arddull | portread (paentiad), celfyddyd grefyddol, portread |
| Mudiad | Darddulliaeth |
| Tad | Prospero Fontana |
| Priod | Gian Paolo Zappi |

Roedd Lavinia Fontana, neu Lavinia Zappi (24 Awst 1552 - 11 Awst 1614), yn beintiwr o'r Eidal a aned yn Bologna. Caiff ei hystyried y ferch gyntaf i fod yn arlunydd o'r un lefel a dynion, y tu allan i gwfaint a llys.[1] Hi hefyd oedd y ferch gynatf, hyd y gwyddom, i ddarllunio merched noeth yn ei lluniau, hi hefyd oedd yn dod ag arian i mewn i'r teulu, a hwnnw'n deulu o 13.[2]
Gweithiai â lliw fel ei thad, Prospero Fontana. Peintiodd ei llun cyntaf (Plentyn - y mwnci) yn 23 oed ond mae'r llun bellach ar goll.
Galwodd y Pab Grigor XIII hi i Rufain lle cafodd waith fel arlunydd yn ei lys.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Artist Profile: Lavinia Fontana". National Museum of Women in the Arts. Cyrchwyd 29 Mawrth 2013.
- ↑ Weidemann, Christiane; Larass, Petra; Melanie, Klier (2008). 50 Women Artists You Should Know. Prestel. tt. 18, 19. ISBN 978-3-7913-3956-6.